Caerdydd: Dyn yn euog o lofruddio tad i saith
Yn Llys y Goron Caerdydd fe gafodd dyn ei ddyfarnu'n euog o lofruddio tad i saith o blant yn y ddinas flwyddyn yn ôl.
Bu farw Colin Richards ar ôl cael ei drywanu yn ei goes yn ardal Trelái.
Roedd y gwasanaethau brys wedi ymateb i alwad yn dilyn digwyddiad yn ardal Heol-Y-Berllan a Heol Trelái yng Nghaerau ar 7 Ebrill 2024.
Fe gafodd Corey Gauci, sy'n 19 oed, ei ddyfarnu'n euog o lofruddio Colin Richards ar ôl achos a wnaeth bara am chwe wythnos.
Dychwelodd y rheithgor reithfarnau ar bump arall hefyd.
Cafwyd James O’Driscoll, 27 oed, yn euog o anhrefn treisgar a bod â llafn yn ei feddiant.
Cafwyd Christian Morgan, 36 oed o Gaerau, yn euog o fod â llafn yn ei feddiant.
Fe fethodd y rheithgor a dod i benderfyniad ar y cyhuddiad o anhrefn treisgar yn ei erbyn.
Fe gafwyd Noreen O’Driscoll, 29 oed o Drelái yn euog o gynorthwyo troseddwr ac fe gafwyd Rebecca Ross, 44 oed o Lincoln yn euog o gynorthwyo troseddwr a bod â llafn yn ei meddiant.
Cafwyd Soraya Somersall, 44 oed o Drebiwt, yn euog o gynorthwyo troseddwr.
Mewn datganiad, dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies: “Roedd Colin yn dad, yn daid, yn fab ac yn frawd annwyl iawn.
“Mae ei farwolaeth drasig wedi gadael saith o blant heb dad, ac maen nhw’n parhau i’w golli’n fawr. Mae ein meddyliau gyda theulu Colin heddiw fel maen nhw wedi bod drwy’r cyfnod.”