Newyddion S4C

Rhybudd i deuluoedd osgoi cyffwrdd ag ŵyn wrth ymweld â ffermydd

10/04/2025
Plentyn gyda dafad

Ar drothwy’r Pasg, mae cais i deuluoedd i fod yn ofalus wrth ymweld â ffermydd, rhag cael eu heintio gan anifeiliaid. 

Gyda’r tymor ŵyna yn amser poblogaidd i deuluoedd gyda phlant ifanc yn ymweld â sŵau a ffermydd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n rhybuddio y gall cyswllt gydag ŵyn ac anifeiliaid fferm eraill arwain at risg o haint, sy’n cynnwys salwch fel cryptosporidiosis.

Fe allai’r salwch achosi dolur rhydd, chwydu, twymyn, a chrampiau stumog. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud y dylai teuluoedd osgoi cyswllt agos ag ŵyn – sy’n cynnwys gafael ynddynt, eu cofleidio neu eu cusanu – gan fod hynny’n cynyddu’r risg o salwch.

Dylai grwpiau sy’n agored i niwed, gan gynnwys plant ifanc, menywod beichiog, a'r henoed, gymryd mesurau ychwanegol oherwydd gall heintiau fod yn fwy difrifol byth iddyn nhw. 

Dywedodd Andrew Nelson o Iechyd Cyhoeddus Cymru bod y tymor ŵyna yn “gyfle gwych i deuluoedd fwynhau cefn gwlad a dysgu mwy am ffermio,” ond mae’n bwysig cofio “bod anifeiliaid fferm yn gallu cario germau sy’n achosi salwch.” 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl sydd yn cyffwrdd ag anifeiliaid, ffensys, neu llefydd lle gallai anifeiliaid wedi bod, i olchi eu dwylo’n drylwyr â dŵr tap cynnes a sebon, gan ddweud nad yw geliau llaw neu weips yn glanhau’n gystal.

Fe ddylai pobl hefyd osgoi bwyta neu yfed yn agos at anifeiliaid ac fe ddylent olchi dwylo cyn bwyta. 

Mae’r corff wedi atgoffa trefnwyr i sicrhau bod gweithwyr wedi’u hyfforddi’n gywir ac i ddarparu cyfleoedd i olchi dwylo yn rheolaidd. 

Maen nhw hefyd yn dweud y dylai trefnwyr ystyried cau ŵyn mewn corlan a gadael i ymwelwyr eu bwydo o ochr arall y gorlan, ac i sicrhau fod ŵyn sâl yn cael eu cadw mewn cwarantîn hyd nes iddyn nhw wella. 

Fe ddylai pobl sydd yn mynd yn sâl ar ôl ymweld â fferm osgoi dychwelyd i'r gwaith, yr ysgol neu'r feithrinfa nes eu bod wedi bod yn rhydd o symptomau am o leiaf 48 awr, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.