Cymeradwyo cynllun dadleuol am ganolfan ymwelwyr ar Foel Famau
Cymeradwyo cynllun dadleuol am ganolfan ymwelwyr ar Foel Famau
Mae cynllun dadleuol ar gyfer adeiladu canolfan ymwelwyr ar Foel Famau yn Sir Ddinbych wedi ei gymeradwyo.
Redd Cyngor Sir Dinbych wedi gwneud cais i’w swyddfa gynllunio ei hun i gael codi'r adeilad.
Bydd yr adeilad yn cael ei godi ychydig dros filltir o gopa uchaf Bryniau Clwyd ac ar safle maes parcio Pen Barras.
Mae'r maes parcio yn fan cychwyn i nifer o gerddwyr i frig y bryn 554m o uchder.
Bydd y ganolfan yn cynnwys toiledau, caffi, canolfan dwristiaeth a swyddfeydd.
Moel Famau yw pwynt uchaf Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Mae tua 300,000 o bobl yn cyrraedd y copa bob blwyddyn, a nod y ganolfan fydd i helpu i gwrdd â’r “heriau” sy’n dod wrth i nifer yr ymwelwyr gynyddu.
Cynllun dadleuol
Roedd y cyngor wedi derbyn degau o lythyrau yn gwrthwynebu'r cynllun gan godi pryderon am ragor o ymwelwyr, traffig, bywyd gwyllt a’r effaith ar yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
Dywedodd un gwrthwynebydd nad oedd “caffis a mynyddoedd yn gymysg da fel mae profiad Eryri wedi ei ddangos”.
“Bydd maes parcio llawn ymwelwyr yn defnyddio’r caffi heb unrhyw lefydd ar ôl i bobl sydd eisiau cerdded,” medden nhw.
Ond roedd nifer o blaid y cynllun yn dadlau bod angen cyfleusterau yn yr ardal ac yn rhagweld budd economaidd.
Nid oedd unrhyw wrthwynebiad wedi dod gan gydbwyllgor ymgynghorol Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
“Mae’r cydbwyllgor yn parhau i gefnogi’r cynnig hwn ar y sail y bydd yn gwasanaethu’r niferoedd presennol o ymwelwyr yn y lleoliad hwn ac yn disodli’r cyfleusterau dros dro sydd ar gael,” meddai'r pwyllgor cyn y penderfyniad.
Cafodd y cais ei gymeradwyo ddydd Mercher yn Neuadd y Sir yn Rhuthun.