Newyddion S4C

Gêm gyfartal arall i Gymru yn erbyn Sweden

08/04/2025
Cymru v Sweden 8 Ebrill 25

Mae Tîm Pêl-droed Cymru Menywod Cymru wedi sicrhau gêm gyfartal arall yn erbyn Sweden yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Fawrth, a hynny oddi cartref yn Gothenburg. 

1-1 oedd y sgôr terfynol, union yr un canlyniad â'r gêm ddiwethaf rhwng y ddau dîm.  

Fis Chwefror, sicrhaodd Cymru gêm gyfartal yn erbyn Sweden ar y Cae Ras yn Wrecsam. 

Gyda Sweden ymhlith timau gorau'r byd, roedd sylwebwyr o'r farn mai hwn oedd un o'r canlyniadau gorau yn hanes Tîm Pêl-droed Menywod Cymru. 

Ac oddi cartef yn Gothenburg nos Fawrth, llwyddodd Cymru i ddal eu tir yn yr hanner cyntaf, gyda pherfformiad addawol, ond roedd Sweden yn bygwth dro ar ôl tro.

Bu Sweden bron â sgorio wedi 12 munud, a chynyddu wnaeth y pwysau ar Gymru ar ddiwedd yr hanner cyntaf, ond methodd Sweden â tharo cefn y rhwyd droeon.  

Di-sgôr oedd hi ar yr hanner. 

Wedi i Sweden bwyso'n drwm ar ddechrau'r ail hanner, daeth gôl i'r tîm cartref wedi 60 munud o chwarae, wrth i un o sêr y tîm Magdalena Eriksson, sy'n chwarae i glwb Bayern Munich benio i gefn y rhwyd.  

Roedd Sweden yn pwyso am gôl arall, ond 7 munud yn ddiweddarach, fe darodd Cymru yn ôl. 

Llwyddodd Hannah Cain i sgorio ar ôl i Rachel Rowe basio'r bêl iddi. Dim ond ychydig funudau ynghynt y camodd Cain i'r cae, wrth i Elise Hughes adael.    

Cafodd Ffion Morgan gyfle gwych wedi 77 munud, cyn i Hannah Cain gael cyfle arall bum munud cyn y chwiban olaf.   

Wedi i Sweden bwyso'n drwm ar ddiwedd y gêm llwyddodd gôl-geidwad Cymru, Safia Middleton-Patel i arbed dro ar ôl tro, yn arwrol ar brydiau.  

Wedi pedair munud o amser ychwanegol, 1-1 oedd hi wrth i'r chwiban olaf chwythu, gyda pherffomiad hynod o addawol unwaith eto gan Gymru, yn erbyn y tîm sy'n rhif 6 y byd. 

'Perfformiad rhagorol' 

Wrth ymateb i'r canlyniad, dywedodd Prif Hyfforddwraig Cymru Rhian Wilkinson fod  hwn yn berfformiad rhagorol. 

"Dyw'r tîm hwn byth yn ildio. Mae'n foment wych, ac yn rhywbeth y medrwn adeiladu arno," meddai.   

Mae Cymru yn cystadlu yn haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd yng ngrŵp 4, yn erbyn yr Eidal, Denmarc a Sweden. 

Bydd menywod Cymru yn wynebu Denmarc oddi cartref ar 30 Mai, ac yna'r Eidal yn Abertawe ar 3 Mehefin, i gloi eu hymgyrch yng Nghynghrair y Cenhedloedd. 

Yna fis Gorffennaf, bydd carfan Rhian Wilkinson yn teithio i'r Swistir i chwarae yn Euro 2025 am y tro cyntaf yn hanes Cymru.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.