Newyddion S4C

‘Dim angen bod ofn Stoma’: Dechrau grŵp cefnogaeth yn Llangollen

ITV Cymru 09/04/2025
Grŵp cefnogaeth stoma yn Llangollen

Mae Moira Gleed, 78 oed, o Langollen, wedi dechrau grŵp i gefnogi pobl eraill sy’n defnyddio stoma.

Haf llynedd, wnaeth Moira derbyn diagnosis o ganser y colon, a oedd wedi effeithio ar ei system dreulio.

O achos hynny, roedd rhaid i Moira dderbyn llawdriniaeth i gael gwared â sawl tiwmor, yn ogystal â rhan sylweddol o’i cholon.

Ers hyn, mae Moira wedi bod yn awyddus i gefnogi eraill sydd yn aros am, neu yn barod wedi derbyn stoma.

“Mae’n ffordd o siarad gydag eraill am ffordd ‘newydd’ o fyw,” meddai.

“Mae help gan eraill sydd wedi byw yn bositif gyda stoma am gyfnod hir yn werthfawr, ac mae’n gyfle i rannu cyngor a phrofiadau.

“Mae’n gallu bod yn amser brawychus i lawer ac felly mae'n help cael cefnogaeth gan rai sydd deall y siwrnai.”

Image
Moira Gleed
Yn ôl Moira Gleen "nid oes rheswm i ofni stoma"

Mae’r grŵp, ‘Back to Front’, yn cwrdd yn Neuadd Eglwys Gymunedol St Collen ar Ddydd Llun cyntaf pob mis.

Bwriad Moira yw gwahodd siaradwyr gwahanol i drafod amrywiaeth o bynciau wrth i’r sesiynau barhau.

Er bod nifer yn y grŵp yn defnyddio stoma, mae rhai gofalwyr hefyd yn mynychu.

Mae Moira yn gobeithio bydd y grŵp yn annog mwy o bobl i deimlo’n well am dderbyn stoma oherwydd rhesymau meddygol.

Dywedodd Moira: “Rydw i eisiau cael y neges allan yna, nid oes rheswm i ofni stoma. Gallwch chi dal byw bywyd llawn gyda stoma.”


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.