Newyddion S4C

Galw am fwy o staff benywaidd ar drenau Cymru

09/04/2025
Tren TFW

Mae angen i Drafnidiaeth Cymru recriwtio mwy o staff benywaidd ar eu trenau, yn ôl un o bwyllgorau'r Senedd.

Yn ei adroddiad blynyddol ar Drafnidiaeth Cymru, mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith wedi galw am recriwtio mwy o fenywod i "rolau gweithredol allweddol". Mae hynny yn cynnwys gyrru trenau a pheirianneg.

Mae'r pwyllgor hefyd wedi galw ar y sefydliad i gau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Daw'r alwad wedi i Drafnidiaeth Cymru gyhoeddi ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2023-24 y llynedd.

Dywedodd llefarydd ar ran y pwyllgor eu bod yn "falch" bod Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud cynnydd ond bod angen "cynnydd pellach".

"Roeddem yn falch o glywed bod lefelau’r staff benywaidd yn Trafnidiaeth Cymru wedi gwella’n gyffredinol, ond rydym yn nodi fod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi tyfu," meddai'r llefarydd.

"Hoffem weld cynnydd pellach o ran recriwtio menywod i rolau gweithredol allweddol sy’n gysylltiedig â’r rheilffyrdd, fel gyrru trenau a pheirianneg. 

"Bydd hyn nid yn unig yn mynd i’r afael â chydbwysedd rhywedd y sefydliad, ond bydd hefyd yn helpu i gau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau."

Yn ôl y pwyllgor, mae angen i Drafnidiaeth Cymru gyflwyno cynlluniau recriwtio, mentora ac arwain sydd wedi’u targedu.

Pan ymddangosodd o flaen y pwyllgor, dywedodd prif weithredwr Trafnidiaeth Cymru, James Price, fod y cynnydd yn "rhesymol" ac yn "gyson". 

Pwysleisiodd hefyd ei ymrwymiad i gynyddu nifer y staff benywaidd yn y sefydliad a mynd i’r afael â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Y ffigurau

Cwmni dielw yw Trafnidiaeth Cymru sy'n cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r sefydliad yn rheoli Grŵp Trafnidiaeth Cymru, sy’n cynnwys Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru, sef gweithredwr trenau rheilffyrdd Cymru.

Ym mis Ebrill 2023, roedd Grŵp Trafnidiaeth Cymru yn cyflogi 778 o bobl - gyda 471 (60.5%) ohonynt yn ddynion a 307 (39.5%) yn fenywod.

Roedd hyn yn cynrychioli cynnydd o ddau bwynt canran yng nghyfran y menywod cyflogedig o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, meddai'r adroddiad.

Yn y cyfamser, roedd Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn cyflogi 3,023 o bobl - gyda 2,396 (79.3%) ohonynt yn ddynion a 627 (20.7%) yn fenywod.

Roedd hyn yn cynrychioli cynnydd o 0.7 pwynt canran yng nghyfran y menywod cyflogedig o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Ngrŵp Trafnidiaeth Cymru yn 14.1% ym mis Ebrill 2023 o gymharu â 32.8% ym mis Mawrth 2022.

Yn Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru, roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn 16.2% ym mis Ebrill 2023 o gymharu â 19.2% y flwyddyn flaenorol.

Mae'r pwyllgor hefyd wedi galw ar y sefydliad i wella amrywiaeth y gweithlu drwy ehangu ymgyrchoedd recriwtio y tu hwnt i Gaerdydd.

"Rydym yn croesawu’r ymgyrchoedd recriwtio wedi’u targedu mewn ardaloedd fel Bae Caerdydd a Thre-biwt, a byddem yn annog Trafnidiaeth Cymru i wneud mwy o hyn," meddai'r llefarydd ar ran y pwyllgor.

"Credwn fod partneriaethau â sefydliadau sy’n cefnogi grwpiau lleiafrifol yn hanfodol a hoffem weld hyn yn cael ei ehangu, gan gynnwys i rannau eraill o Gymru."

Mae Newyddion S4C wedi gwneud cais am ymateb gan Drafnidiaeth Cymru.

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.