Newyddion S4C

Ail berson wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ger Llanelli

08/04/2025
Heddlu

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi fod ail berson wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gar ar gyrion Llanelli ddechrau Ebrill. 

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng y cerbydau BMW a Peugeot 208, tua 22.50 ar 2 Ebrill, ar ffordd yr A4138 rhwng cylchfan Llangennech a chylchfan yr amlosgfa yn Llanelli.

Bu farw gyrrwr y BMW ar y pryd, ac roedd gyrrwr y Peugeot mewn cyflwr difrifol.

Bellach, mae'r heddlu wedi cadarnhau i yrrwr y car Peugeot farw mewn ysbyty ar ddydd Sadwrn 5 Ebrill.  

Mae’r heddlu'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.