Newyddion S4C

Dynes o Fôn wnaeth esgeuluso stalwyn oedd â thwll yn ei dalcen yn osgoi carchar

08/04/2025
Stalwyn

Mae dynes o Ynys Môn a achosodd "dioddefaint diangen" i stalwyn wedi iddo gael ei ddarganfod mewn cyflwr tenau iawn a gyda thwll yn ei dalcen wedi osgoi carchar.

Cafodd Andrea Parry-Jones, 66, o Garreg y Gad, Llanfairpwllgwyngyll, Ynys Môn, ddedfryd o chwe mis o garchar wedi’i ohirio am flwyddyn yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau 27 Mawrth.

Bu'n rhaid terfynu bywyd Ross, y merlyn.

Dywedodd datganiad ysgrifenedig gan Arolygydd yr RSPCA, Mark Roberts, ei fod wedi gofyn am gael ymweld â Ross, a gafodd ei ddarganfod gan Safonau Masnach Ynys Môn ar 14 Chwefror.

Image
Ross y stalwyn

Pan aeth i ymweld â’r merlyn, dywedodd ei fod yn gwisgo dau ryg, ond ei fod yn “amlwg ei fod yn denau hyd yn oed o dan y ddau”.

“Llithrais fy llaw o dan y ddau ryg wrth ei ysgwydd ac roeddwn i’n gallu teimlo’r esgyrn yn hawdd,” meddai.

“Roedd gan y merlyn dwll yn ei dalcen ychydig i'r chwith o'r canol ac roedd yn edrych i fod tua hanner modfedd o ddyfnder."

Image
Ross y stalwyn

Cyrhaeddodd milfeddyg a thynnu’r rygiau i ddatgelu “merlyn tenau iawn” a chwblhau tystysgrif filfeddygol yn nodi yn ei barn fod yr anifail yn dioddef.

Dywedodd bod angen iddo gael ei symud o’r lleoliad i le lle y gallai dderbyn gofal milfeddyg.

Rhoddodd y milfeddyg sgôr cyflwr corff o 0.5 allan o bump i Ross (gyda sero yn rhy denau a phump yn ordew - tri sy’n ddelfrydol).

Dywedodd y milfeddyg yn ei datganiad: “Roedd ganddo asgwrn cefn, asennau, pelfis, ysgwydd a phen cynffon amlwg”.

“Roedd yna wastraff cyhyrau amlwg o dan y gynffon ac roedd y gwddf yn gul iawn," meddai.

“Yn fy marn i, mae wedi cymryd isafswm o wyth wythnos i’r ceffyl hwn ddod mor denau ac i gyflwr mor wael, ond yn debygol o fod yn hirach.

“Mae hyn wedi achosi dioddefaint am isafswm o bedair wythnos iddo.”

Image
Ross y stalwyn

Cafodd y merlyn ei gludo i Bractis Ceffylau Leahurst ym Mhrifysgol Lerpwl ar gyfer sgan CT, cyn i’r milfeddygon ddarganfod fod angen llawdriniaeth arno.

Oherwydd y risgiau o ganlyniad i gyflwr presennol y merlyn a phrognosis gwael ar gyfer adferiad, penderfynodd arbenigwr milfeddygol derfynu bywyd Ross er mwyn atal dioddefaint pellach.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.