Rygbi Caerdydd am fynd i ddwylo'r gweinyddwyr
Mae rhanbarth Rygbi Caerdydd yn bwriadu mynd i ddwylo'r gweinyddwyr o ganlyniad i drafferthion ariannol.
Y gred yw y bydd Undeb Rygbi Cymru'n camu i mewn i achub y rhanbarth yn y tymor byr.
Cafodd cyfarfod ei gynnal brynhawn dydd Mawrth ym Mharc yr Arfau gyda chwaraewyr, staff a'r prif weithredwr Richard Holland i drafod y newyddion.
Fe fydd penaethiaid y busnes yn nodi eu bwriad i roi'r clwb yn nwylo'r gweinyddwyr yn fuan, gan nodi'r cam yn swyddogol gyda Thŷ'r Cwmnïau.
Mewn datganiad yn ymateb i'r newyddion, dywedodd Undeb Rygbi Cymru: "Rydym yn ymwybodol bod Rygbi Caerdydd wedi cadarnhau rhybudd o fwriad i benodi gweinyddwyr, ac rydym yn gweithio’n agos gyda Bwrdd Caerdydd a’r gweinyddwyr i ddiogelu dyfodol rygbi proffesiynol yng Nghaerdydd.”
Dangosodd cyfrifon diweddaraf y rhanbarth ar gyfer y flwyddyn hyd at ddiwedd Mehefin 2023 fod gan Rygbi Caerdydd golledion o £2.1 miliwn a dyledion cyfredol o £5.9 miliwn, gyda chyfanswm eu dyledion net yn £10.6 miliwn.
Barn y cyfarwyddwyr ar y pryd oedd bod y busnes yn gallu parhau'n weithredol o ganlyniad i gytundeb gydag Undeb Rygbi Cymru a chyfranddaliwr allweddol i gefnogi'r busnes yn ariannol pe bai angen, gan gynnig sicrwydd i'r dyfodol.
Ar ddiwedd 2023 daeth cadarnhad mai'r dynion busnes Phil Kempe a Neal Griffith oedd perchnogion a phrif fuddsoddwyr newydd y rhanbarth, drwy gwmni Helford Capital. Eu gobaith oedd dechrau ar "gyfnod disglair newydd i'r clwb."
Yn un o bedwar rhanbarth rygbi Cymru, cafodd y clwb ei ffurfio'n wreiddiol yn 1876 a rhwng 2003 a 2021 roedd y tîm cyntaf yn defnyddio'r enw Gleision Caerdydd cyn mabwysiadau'r enw Rygbi Caerdydd ar ddechrau tymor 2021-22.
Fe fydd y datblygiad diweddaraf yn creu cur pen sylweddol i Undeb Rygbi Cymru sydd wedi dod dan bwysau i ailwampio'r rhanbarthau mewn cyfnod cythryblus i'r gamp ar y cae a thu hwnt.
Prif lun: Asiantaeth Luniau Huw Evans