Aelodau Senedd Cymru yn Wcráin i anrhydeddu'r newyddiadurwr Gareth Jones
Aelodau Senedd Cymru yn Wcráin i anrhydeddu'r newyddiadurwr Gareth Jones
Mae aelodau o Senedd Cymru wedi teithio i Wcráin er mwyn anrhydeddu’r newyddiadurwr a'r "arwr" Gareth Jones.
Mae Rhun ap Iorwerth, Mick Antoniw, Alun Davies, Darren Millar ac Laura Anne Jones wedi teithio i’r wlad.
Fe fyddan nhw yn trafod gydag awdurdodau Wcráin ynglŷn â gosod plac yn Gymraeg, Saesneg ac Wcraneg ar stryd sydd wedi ei enwi ar ôl y newyddiadurwyr.
Wrth siarad ar Radio Cymru fore Mawrth, dywedodd y gwleidydd a'r cyn newyddiadurwr Rhun ap Iorwerth ei fod wedi bod yn ymwybodol o hanes Gareth Jones ers cryn amser yn sgil ei brofiad personol.
“Mae’r ffaith i’r newyddiadurwr ifanc o Gymru ddod yn arwr yn Wcráin ag yn arwr hyd heddiw oherwydd ei benderfynoldeb i ddod a’r gwir am yr hyn oedd yn digwydd yn yr hen Wcráin sofietaidd yn rhywbeth oedd yn taro deuddeg a fi oherwydd fy mywyd i fel newyddiadurwr.
“Mae gallu bod yma heddiw ‘ma i sicrhau bod Gareth Jones yn dal i gael ei anrhydeddu yn rhywbeth sy’n golygu lot i mi.”
Yn ystod yr ymweliad fe fydd yr aelodau seneddol yn cyfarfod gyda Dirprwy Faer Kiev, Kostiantyn Usov, er mwyn trafod y gofeb a fydd yn cael ei gosod ar Stryd Gareth Jones yn y ddinas.
“Dyma ni rŵan yn agosáu at allu rhoi y gofeb yma fydd yn atgof parhaol yn tair iaith: yn Gymraeg, Saesneg a Wcraneg.
“Mae’n rhywbeth y gallwn ni fel Cymry bod yn falch ohoni hi,” meddai Mr ap Iorwerth.
Gareth Jones oedd un o’r rhai cyntaf i ddatgelu'r Holodomor – y Newyn Mawr - yn Wcráin yn ystod y 1930au.
Y gred yw bod hyd at 5 miliwn o bobl Wcráin wedi marw yn sgil polisi Joseph Stalin a oedd yn golygu newynu pobl yn fwriadol.
Cafodd ei lofruddio yn 1935 tra roedd ym Mongolia. Roedd wrthi yn ymchwilio i fwriad Japan ar y pryd i ehangu ei thiriogaeth. Cafodd ffilm am ei fywyd ei chyhoeddi yn 2019.
Llun: Wikipedia