Chwaraewyr profiadol yn absennol i Gymru wrth wynebu Sweden
Chwaraewyr profiadol yn absennol i Gymru wrth wynebu Sweden
Bydd tîm merched pêl-droed Cymru yn wynebu Sweden oddi cartref nos Fawrth, gyda nifer o chwaraewyr profiadol yn absennol.
Er gwaetha'r golled o 2-1 yn erbyn Denmarc yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener, roedd perfformiad tîm Rhian Wilkinson yn galonogol ar y cyfan.
Roedd pryderon wedi'r gêm ar ôl i chwaraewr canol cae Cymru, Ceri Holland orfod gadael y cae a mynd i'r ysbyty wedi anaf i'w choes dde.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru bellach wedi dweud nad ydy'r anaf "mor ddrwg â'r hyn oeddem ni wedi ei bryderu".
Dywedodd capten Cymru Angharad James ar drothwy'r gêm: "Ma' pob gêm yn sialens i ni. Ond dyma'r un ni gyd mo'yn chwarae yn, y gemau yn erbyn y timoedd gorau yn y byd a dwi'n credu bydd y gêm yma y gêm mwyaf caled yn y grŵp.
"Ma' nhw'n tîm mor dda, naethon ni weld hwnna yn Wrecsam yn y gêm diwethaf. Ond ni'n paratoi yr un peth, bydd ni'n edrych at y perfformiad diwethaf a gweld lle gallwn ni wella."
Ni fydd Jess Fishlock na Kayleigh Barton yn rhan o'r garfan a fydd yn teithio i Sweden yn sgil anafiadau. Mae Sophie Ingle hefyd yn parhau wedi ei hanafu ar ôl llawdriniaeth.
'Gorffwys'
Fe gafodd Fishlock, sef prif sgoriwr Cymru gyda 46 o goliau, ei chynnwys yn y garfan ar gyfer y gêm yn erbyn Denmarc nos Wener ond ni ddaeth ymlaen oddi ar y fainc.
Dywedodd rheolwr Cymru Rhian Wilkison ei fod yn benderfyniad anodd peidio cynnwys Fishlock yn y garfan ar gyfer y gêm yn erbyn Sweden.
"Mae Jess yn rhywun a fyddai'n chwarae pob gêm," meddai.
"Ond roeddem ni'n teimlo mai dyma'r amser gorau iddi wella a gorffwys er mwyn sicrhau ei bod hi'n teimlo yn holliach ar gyfer y gemau rhyngwladol nesaf."
Mae tîm Rhian Wilkinson ar waelod Grŵp A gyda phwynt allan o dair gêm.
Bydd Cymru yn wynebu Sweden yn Gothenburg am 18:00 nos Fawrth.
Yna byddant yn wynebu Denmarc oddi cartref, a'r Eidal yn Abertawe i gloi eu hymgyrch yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA.
Fe fydd carfan Rhian Wilkinson wedyn yn teithio i'r Swistir i chwarae yn Euro 2025 am y tro cyntaf yn eu hanes.