Menyw wedi marw mewn gwrthdrawiad ym Mannau Brycheiniog
Mae menyw wedi marw wedi gwrthdrawiad ym Mannau Brycheiniog ddydd Sadwrn.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod y gwrthdrawiad wedi digwydd ar yr A4059 am tua 16:20, ac yn ymwneud â beic modur a oedd wedi ei gysylltu â char ar yr ochr.
Bu farw'r fenyw oedd yn teithio yn y car yn y fan a'r lle.
Mae ei theulu wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae gyrrwr y beic modur yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Fe gafodd y ffordd ei chau wedi'r gwrthdrawiad ac fe gafodd ei hail-agor ychydig cyn hanner nôs.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 277 ar 5 Ebrill.