Newyddion S4C

Ailagor rhan o'r A470 yn y canolbarth wedi gwaith atgyweirio

07/04/2025
Y ffordd ar ei newydd wedd

Bydd rhan o ffordd yr A470 sydd wedi bod ar gau yng nghanolbarth Cymru ers rhai misoedd yn ailagor ym mis Ebrill.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates, ddydd Llun y bydd yr A470 rhwng Talerddig a Dolfach yn ailagor ddydd Gwener 11 Ebrill.

Fe gafodd y ffordd ei chau ar frys ym mis Hydref 2023 er mwyn atgyweirio wal a ddisgynnodd i mewn i afon, gan adael twll ar ochr y ffordd.

Cafodd gwaith atgyweirio brys, oedd yn ddatrysiad dros dro, ei gynnal ar y pryd er mwyn ailagor y ffordd.

Ond roedd angen cau'r ffordd yn gyfan gwbl rhwng 20 Ionawr ac 11 Ebrill er mwyn cwblhau'r gwaith atgyweirio.

Roedd y gwaith yn golygu dargyfeiriad hir o 70 milltir i deithwyr, gan fynd â nhw trwy Gaersws, y Drenewydd a'r Trallwng cyn ailymuno a'r A470 ym Mallwyd.
 
Yn wreiddiol roedd yna fwriad i wneud y gwaith yn gynt, ond fe gafodd y gwaith ei ohirio o achos y gwrthdrawiad ar reilffordd y Cambria ym mis Hydref. 
 

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd goleuadau traffig nawr yn cael eu hailosod ar y safle tra bod rhwystr diogelwch yn cael ei osod. 

Bydd yr holl fesurau rheoli traffig wedi'u symud o'r safle erbyn 30 Ebrill, meddai'r llywodraeth.

Mewn datganiad, dywedodd Ken Skates: "Rwy'n deall y problemau mae'r gwaith hwn wedi'u hachosi a hoffwn i ddiolch i fodurwyr a thrigolion lleol am eu hamynedd wrth i'r gwaith gael ei wneud.

"Fodd bynnag, roedd yn hanfodol bod y gwaith hwn yn cael ei wneud ar yr adeg hon er mwyn sicrhau y gall y ffordd barhau i fod ar agor yn y blynyddoedd i ddod.

"Hoffwn i hefyd ddiolch i Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru a'u cadwyn gyflenwi am eu gwaith caled i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau yn ôl yr amserlen ac yn lleihau lefel y tarfu cymaint â phosibl."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.