Newyddion S4C

Trump yn ‘agored i drafod’ wrth i gwymp y marchnadoedd arian barhau

Donald Trump

Mae Donald Trump wedi dweud ei fod yn “agored i drafod” ei dariffau wrth i gwymp y marchnadoedd ariannol barhau ddydd Llun.

Dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau nos Sul ei fod eisiau “datrys” y ffaith bod yr Unol Daleithiau yn mewnforio mwy o nwyddau na mae’r wlad yn ei allforio o Tsieina a’r Undeb Ewropeaidd.

“Os ydyn nhw eisiau siarad am hynny, rydw i’n agored i siarad,” meddai. 

Syrthiodd marchnadoedd stoc yn Asia ac Ewrop fore Llun ac mae disgwyl cwymp pellach o tua 4% ar fynegai’r 500 cwmni yn UDA, ar ben y cwymp o dros 10% dros yr wythnosau blaenorol.

Mae gwerth rhai o gwmnïau mwyaf marchnad stoc America, fel Amazon a Google, bellach wedi syrthio nôl i'w lefelau yn 2021.

Fe syrthiodd marchnad stoc TAIEX Taiwan 9.7% - y gwymp fwyaf yn ei hanes - ac fe syrthiodd marchnad stoc Hong Kong 13.22% - y gwymp fwyaf ers 28 o flynyddoedd, ddydd Llun.

Daw hyn wedi i dariff o 10% ar fewnforion i America ddod i rym am 05.00 ddydd Sadwrn - a bydd tariffau hyd yn oed yn uwch yn dod i rym ar gyfer gwledydd yr Undeb Ewropeaidd a Tsieina ddydd Mercher.

Mae Tsieina wedi ymateb i dariffau 34% ar eu mewnforion trwy osod yr un tariff ar fewnforion o'r Unol Daleithiau i'r wlad.

Er bod Donald Trump wedi dweud ei fod yn agored i drafod mae rhai aelodau eraill o’i weinyddiaeth wedi dweud y bydd y tariffau yn aros.

Dywedodd uwch gynghorydd Trump ar bwnc masnach, Peter Navarro, na fyddai’r tariffau yn newid.

“Nid trafodaeth yw hon,” meddai wrth Fox News ddydd Sul.

“Mae hwn yn argyfwng cenedlaethol sy’n seiliedig ar ddiffyg masnachol sydd wedi tyfu tu hwnt i reolaeth oherwydd ein bod ni’n cael ein twyllo.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.