Prifathro'n pledio'n euog i anafu dyn mewn ymosodiad yn ei ysgol
Mae prifathro wedi pledio'n euog i achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol mewn ymosodiad yn ei ysgol.
Fe wnaeth Anthony Felton, 54 oed o Orseinon, ymddangos drwy gyswllt fideo yn Llys y Goron Abertawe fore dydd Llun.
Cafodd yr heddlu eu galw i Ysgol Gatholig a Chanolfan Chweched Dosbarth St Joseph's yn Aberafan, Port Talbot ar 5 Mawrth yn dilyn adroddiadau o ymosodiad.
Cafodd Richard Pyke, dirprwy bennaeth 51 oed, ei gludo i’r ysbyty gyda mân anafiadau ar y diwrnod dan sylw.
Siaradodd Felton, a oedd yn ôl adroddiad blynyddol corff llywodraethu'r ysgol, wedi ei benodi yn bennaeth ym mis Medi 2023, i gadarnhau ei enw yn unig a nodi ei ble wrth iddo ymddangos trwy gyswllt fideo o’r carchar.
Ni chafodd manylion y drosedd na’r amgylchiadau o’i chwmpas eu trafod ond clywodd y llys fod “cefndir unigryw” i’r digwyddiad.
Y gred yw bod yr ymosodiad wedi codi o ganlyniad i wrthdaro o achos perthnasau preifat.
Dywedodd John Hipkin KC, oedd yn cynrychioli'r amddiffyn, fod Felton wedi achosi "nifer o ergydion" i Mr Pyke, a oedd i gyd wedi'u dal ar deledu cylch cyfyng.
“Mae’r diffynnydd yn y broses o gael rhai tystlythyrau, sydd ddim wedi bod yn broses hawdd o’r carchar,” meddai.
“Mae’n fater difrifol, yn amlwg, a’r cwestiwn yw a oes angen rhagor o wybodaeth am y diffynnydd ar y llys yng nghynnwys adroddiad cyn-dedfrydu ai peidio.”
Rhybuddiodd y Barnwr Paul Thomas KC y byddai dedfryd o garchar yn anochel:
“Yng nghyd-destun ble a sut y cyflawnwyd y drosedd hon, ac yn benodol, o gofio’r duedd o drais mewn ysgolion a gyflawnir gan ddisgyblion, mae’n ymddangos i mi fod fy nyletswydd cyhoeddus yn mynnu mai dim ond dedfryd o garchar y gellir ei rhoi yma,” meddai wrth Mr Hipkin.
“Mae cais y rhai sy’n eich cyfarwyddo am adroddiad cyn-dedfrydu yn cyfeirio at ‘nodweddion unigryw’. A oes unrhyw beth arbennig o unigryw?”
Atebodd y bargyfreithiwr: “Mae’n gefndir unigryw iddo am wn i ond gallaf ddelio â hynny... heb adroddiad cyn-dedfrydu.
“Ar unrhyw sail mae hwn yn gwymp syfrdanol oddi wrth ras, a dweud y lleiaf.”
Bydd Felton yn cael ei ddedfrydu ar 25 Ebrill.