Newyddion S4C

'Llawer iawn o waith i'w wneud' i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

Efa Gruffudd Jones

Mae 'na "lawer iawn o waith i'w wneud" er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyrraedd ei nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, meddai Comisiynydd y Gymraeg.

Daw sylwadau Efa Gruffudd Jones wrth iddi gyhoeddi ei chynllun strategol ar gyfer y Gymraeg dros y pum mlynedd nesaf ddydd Llun.

Mae Cynllun Strategol Comisiynydd y Gymraeg 2025-30 yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Plant a phobl ifanc, iechyd a gofal, a Chymraeg yn y gweithle yw’r tair blaenoriaeth sydd wedi eu hadnabod yn y cynllun.

Dywedodd Ms Gruffudd Jones ei bod hi'n gobeithio gweld sefydliadau yn rhoi "mwy o sylw i anghenion plant a phobl ifanc".

"Yn sicr ni’n awyddus i weld gwelliant yn y ddarpariaeth o addysg Gymraeg i blant a phobl ifanc ym mhob rhan o Gymru ac mae 'na ddatblygiadau deddfwriaethol ar hyn o bryd sy’n ymwneud a hynny," meddai wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Llun.

"Mae angen i ni sicrhau bod 'na fwy o addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei ddatblygu dros y cyfnod nesa a dwi’n gobeithio y byddwn ni’n gallu cyfrannu at hynny."

'Cyfiawnder cymdeithasol'

Targed strategaeth Llywodraeth Cymru ydy i 40% o ddisgyblion dderbyn addysg Gymraeg erbyn 2050.

Mae'r strategaeth hefyd yn anelu i sicrhau bod 50% o blant sy’n derbyn addysg cyfrwng Saesneg yn siaradwyr Cymraeg erbyn iddynt adael yr ysgol.

Yn ôl Ms Gruffudd Jones, mae angen parhau i "wneud y ddau beth" er mwyn gwireddu targed Cymraeg 2050.

"Dyna pam y byddwn ni’n gweld sefydlu athrofa drwy’r ddeddf newydd [Bil y Gymraeg ac Addysg] a dyna pam fydd 'na gynllunie i bob ysgol gael eu cynllunie datblygu personol eu hunain," meddai.

"Felly mae 'na lawer iawn o waith i’w wneud dros y cyfnod nesa, ac rydyn ni ar ddechrau’r siwrne hwnnw nawr.

"Mae’r ysgolion yn un faes pwysig iawn ond hefyd mae’n bwysig ein bod ni’n sicrhau bod 'na gymunede yng Nghymru sy’n parhau i fod yn rai bywiog Cymraeg."

Daw'r cynllun strategol ddyddiau ar ôl i Gyngor Gwynedd gyhoeddi ei bwriad i wneud y Gymraeg yn brif iaith addysg ym mhob ysgol yn y sir.

"Dwi'n meddwl ei fod e’n bwysig iawn bod bob plentyn yng Ngwynedd yn gadael eu haddysg yn gallu siarad Cymraeg a'r Saesneg," meddai Ms Gruffudd Jones.

"Ac os ydych chi’n meddwl am y peth o safbwynt plant a phobl ifanc eu hunain, yn arbennig mewn ardal fel Gwynedd, mae’n bwysig o ran cyfiawnder cymdeithasol i raddau helaeth eu bod nhw’n gadael yr ysgol yn siaradwyr hyderus yn y ddwy iaith."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.