Pobl yn 'ffilmio ac aflonyddu' staff gwasanaeth iechyd, yn ôl arolwg
Mae staff y Gwasanaeth Iechyd yn cael eu haflonyddu gan bobl sy’n eu "ffilmio gyda ffonau a bygwth cyhoeddi’r lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol."
Dyna yw canfyddiad arolwg gan yr undeb Unison.
Roedd yr arolwg yn cynnwys miloedd o weithwyr iechyd yn y DU. Yr awgrym o'r arolwg oedd bod un o bob saith aelod o staff wedi ei ffilmio neu rywun wedi tynnu lluniau ohonynt wrth eu gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae hyn yn gwneud i staff deimlo’n ofnus ac o dan fygythiad, yn ôl yr undeb.
Mae rhai wedi nodi fod pobl wedi defnyddio’u ffôn er mwyn ffilmio gweithiwr yn trin cleifion sydd yn dioddef ataliad y galon, gyda’r lluniau’n cael eu ffrydio’n fyw ar blatfformau ar-lein.
Mewn enghraifft arall, fe wnaeth aelod o’r cyhoedd ffilmio unigolyn oedd wedi dioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad ffordd, a hynny er gwaethaf galwadau arnyn nhw i stopio gan staff. Roedd yn rhaid i’r heddlu ddod yno i dywys y person o'r digwyddiad.
Mae ffonau symudol, camerâu’r wê (webcams) a theclynnau cudd eraill yn cael eu defnyddio’n aml, er mwyn ceisio aflonyddu a bygwth staff, neu fel ffordd o geisio cael presgripsiwn i feddyginiaeth.
'Gwaith yn ddigon caled'
Yn ogystal ag ysbytai, mae achosion o ffilmio digroeso wedi digwydd mewn tai cleifion ac mewn ymgynghoriadau meddygol. Maent yn cael eu ffrydio i aelodau’r teulu sydd weithiau yn lleisio eu gwrthwynebiad i ddiagnosis, yn ôl yr Undeb.
Dywedodd un aelod o staff: “Mae cleifion yn meddwl y gallan nhw gael ffordd eu hunain, a gorfodi chi i wneud pethau nad oes rhaid i chi wrth gael ffôn allan i’ch ffilmio er mwyn eich aflonyddu.”
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Unison, Christina McAnea: “Rhaid i weithwyr iechyd allu gwneud eu gwaith heb gael eu haflonyddu, heb ffilmio digroeso a bygythiadau o drais.
“Mae eu gwaith yn ddigon caled fel y mae, heb i bobol wthio ffonau yn eu hwynebau a’u rhoi dan bwysau ychwanegol," meddai.
“Dylai cyflogwyr eu gwneud yn glir bod ffilmio staff yn y gwaith heb ganiatâd yn aflonyddu ac y byddant yn rhoi cosb hallt i unrhyw un sy’n cymryd rhan yn y math hwn o ymddygiad gwrthgymdeithasol bygythiol.”