Ystyried tri lleoliad yng Nghymru ar gyfer ffermydd gwynt sydd yn arnofio
Mae tri lleoliad oddi ar arfordir Cymru yn cael eu hystyried ar gyfer prosiect ffermydd gwynt sydd yn arnofio.
Mae Ystâd y Goron wedi cadarnhau eu bod nhw wedi cyrraedd camau olaf y broses o ddewis lleoliadau ffermydd gwynt yn Y Môr Celtaidd.
Yr Ystâd sydd yn rheoli gwely’r môr o amgylch Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Maent hefyd wedi penderfynu ar y cwmnïoedd sydd ar y rhestr fer ar gyfer adeiladu'r ffermydd gwynt.
Fe allai'r datblygiad greu miloedd o swyddi meddai Ystâd y Goron.
Mae porthladdoedd Aberdaugleddau, Abertawe a Phort Talbot yn cael eu hystyried gan y cwmnïau sydd wedi bod yn llwyddiannus wrth wneud ymgais i'w hadeiladu.
Yn ogystal mae pedwar porthladd yn ne orllewin Lloegr a gogledd Ffrainc hefyd yn cael eu hystyried.
Y bwriad yn y pendraw yw creu tair fferm wynt.
Yn ôl Ystâd y Goron, mae'r wybodaeth sydd wedi'i ddarparu gan y cwmnïoedd sy'n ymgeisio yn dangos "posibilrwydd cryf" y gallai safleoedd ym Mhort Talbot a Bryste gael eu dewis.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwlad Cymru, Jo Stevens bod y cyfle yn un "euraidd" i Gymru.
“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn dangos bod Cymru’n barod i achub ar y cyfle euraidd o wynt arnofiol yn y Môr Celtaidd, a sicrhau mwy na 5,000 o swyddi a biliynau o bunnoedd o fuddsoddiad y gallai hyn ei ddwyn i’r rhanbarth.
“Bydd Cymru yn chwarae rhan allweddol mewn darparu pŵer glân fel rhan o'n Cynllun ar gyfer Newid, gan hybu twf economaidd, gostwng biliau ynni a rhoi mwy o bunnoedd ym mhocedi pobl ledled Cymru."
'Sefyllfa dda'
Yn ôl y cynlluniau, byddai'r ffermydd gwynt newydd yn creu dros 5,000 o swyddi yn ogystal â hwb gwerth £1.4 biliwn i'r economi.
Bydd y tyrbinau gwynt yn mesur 300m mewn taldra, sydd yr un mor uchel â'r Shard yn Llundain.
Fe fyddan nhw yn cael eu gosod ar blatfformau sydd tua'r un maint â chae pêl-droed.
Dywedodd llefarydd ar ran Ystâd y Goron eu bod nhw wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wrth gynllunio a gweithio ar y prosiect hwn.
Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd Economi, Ynni a Chynllunio Llywodraeth Cymru: “Mae ein porthladdoedd mewn sefyllfa dda i gefnogi’r diwydiant hwn sydd yn tyfu, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod datblygiadau o’r fath yn darparu buddion economaidd parhaol i Gymru tra'n parhau i gryfhau ein sefyllfa fel arweinydd ynni adnewyddadwy."
Ar hyn o bryd mae gan Gymru dair fferm wynt oddi ar yr arfordir yn y gogledd sef Gwynt y Môr, Gwastadeddau'r Rhyl a North Hoyle.