Cynllun i dynnu cleifion sydd ddim yn mynd i apwyntiadau oddi ar restrau aros
Cynllun i dynnu cleifion sydd ddim yn mynd i apwyntiadau oddi ar restrau aros
Fe allai pobl sydd ddim yn mynd i apwyntiadau meddygol gael eu tynnu oddi ar restrau aros, fel rhan o gynlluniau newydd i leihau amseroedd aros y gwasanaeth iechyd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i geisio mynd i’r afael â’r 700,000 o apwyntiadau cleifion sy’n cael eu colli neu eu canslo bob blwyddyn.
Fel rhan o ‘gytundeb’ rhwng y Gwasanaeth Iechyd (GIG) a’r cyhoedd, fe fydd yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles yn cyhoeddi strategaeth i geisio lleihau’r rhestr aros o 200,000, cael gwared ar amseroedd aros o ddwy flynedd ar gyfer triniaethau sydd wedi’u cynllunio, ac ail-gyflwyno’r uchafswm o wyth wythnos o aros am brofion erbyn Mawrth 2026.
Daw’r newidiadau wrth i’r gwasanaeth wneud diweddariadau i’r ap GIG Cymru, ble fydd pobl yn gallu gwirio am ba mor hir y bydd rhaid iddynt aros. Bydd yr ap yn weithredol ar ei newydd wedd o fis Mehefin.
Un o’r newidiadau yw cynnig dau ddyddiad i gleifion ar gyfer apwyntiadau, ac os na fyddent yn gallu mynd iddynt heb reswm da, byddant yn cael eu symud i ddiwedd y rhestr.
Bydd hefyd yn ofynnol i fyrddau iechyd leihau nifer yr apwyntiadau a llawdriniaethau sy'n cael eu canslo.
Yn ôl y Llywodraeth, dim ond pobl sy’n ffit ac yn ddigon iach i elwa ar lawdriniaeth fydd yn cael eu hychwanegu at y rhestr aros am driniaethau llawfeddygol, am eu bod yn fwy tebygol o wella’n gyflym.
'Defnydd gorau'
Yn ôl Mr Miles, mae’r newidiadau yn rhan o ymdrech “uchelgeisiol” i “leihau "gwastraff adnoddau gwerthfawr”.
“Bydd y Gwasanaeth Iechyd yn gwneud popeth o fewn ei allu i flaenoriaethu mynediad cyflymach at driniaethau," meddai.
“Yn gyfnewid am hynny, rydyn ni’n gofyn i’r cyhoedd wneud popeth o fewn eu gallu i flaenoriaethu eu hapwyntiadau a mynd iddyn nhw, fel y gallwn ni, gyda’n gilydd, wneud y defnydd gorau posib o adnoddau prin y Gwasanaeth Iechyd.
“Allwn ni ddim parhau i golli cymaint ag un o bob saith apwyntiad oherwydd nad yw pobl yn mynd i’w hapwyntiadau, neu ddim yn gallu gwneud hynny, a 10% pellach sy’n cael eu canslo gan y Gwasanaeth Iechyd.
“Mae’r apwyntiadau hyn sy’n cael eu colli yn oedi gofal i bawb ac yn gwastraffu adnoddau gwerthfawr a allai fod yn helpu pobl eraill.”