Newyddion S4C

Cynllun ynni Llywodraeth Cymru 'ddim yn ddigon i drechu tlodi tanwydd'

07/04/2025
Paneli solar

Dyw Llywodraeth Cymru ddim yn gwneud digon i daclo tlodi tannwydd yn ôl un o bwyllgorau'r Senedd. 

Fe glywodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y byddai'n cymryd dros gan mlynedd, ar y gyfradd bresennol, i wella pa mor effeithiol yw'r ynni mewn aelwydydd tlawd yng Nghymru. 

Mae'r pwyllgor yn dweud na fydd cartrefi yn cael eu cynhesu'n effeithiol tan y flwyddyn 2160. 

Mae costau ynni wedi codi i lefelau uwch nag erioed. Ond mae'r adroddiad yn dweud bod gwariant un o'r rhaglenni'r llywodraeth wedi aros yn ei unfan ers 2021. 

Mae Rhaglen Cartrefi Clyd yn cynnwys cynlluniau i osod deunyddiau insiwleiddio a dulliau gwresogi carbon isel fel paneli solar.

Yn yr adroddiad mae'r pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i sicrhau bod unrhyw arian ychwanegol a ddaw ar gael yn mynd tuag at fynd i'r afael â thlodi tanwydd.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn buddsoddi er mwyn "cefnogi'r nifer" sydd yn wynebu tlodi tanwydd.

'Brys'

Dywedodd Jenny Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol bod diffyg ymdrechion y llywodraeth yn "rhwystredig iawn."

“Wrth i gostau ynni o danwydd ffosil barhau i godi, mae’r angen i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru yn dod yn fwy o frys," meddai.

“Yn rhwystredig iawn, nid yw hyn wedi’i adlewyrchu yn ymdrechion Llywodraeth Cymru, ac mae hyn yn cael effaith aruthrol ar y rhai sy’n gallu ei fforddio lleiaf. Yn lle hynny rydym wedi gweld patrwm o oedi, ac o fethu terfynau amser.

“Mae'n anodd anghytuno â barn yr arbenigwyr sy’n dweud nid yw lefel y buddsoddiad yn y Rhaglen Cartrefi Clyd yn agos at yr hyn sydd ei angen i gyfateb i faint yr her o roi terfyn ar dlodi tanwydd.”

'Cefnogi aelwydydd'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn buddsoddi dros £35 miliwn y flwyddyn ariannol hon i gefnogi aelwydydd incwm isel ac yn darparu cyngor ynni am ddim i bobl ledled Cymru.

"Rydym wedi helpu mwy na 82,000 o gartrefi i osod mesurau effeithlonrwydd ynni ac mae 200,000 o aelwydydd wedi cael cyngor am ddim, gan dorri eu bil ynni blynyddol bron i £600 ar gyfartaledd yn 2023-24.

“Byddwn yn ystyried argymhellion yr adroddiad ac yn ymateb iddyn nhw."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.