Newyddion S4C

Rhybudd am golli swyddi a chynnydd mewn prisiau wrth i godiad yswiriant gwladol ddod i rym

arian / Rachel Reeves

Fe allai prisiau godi ac oriau gweithio staff leihau wrth i'r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol gan gyflogwyr ddod i rym ddydd Sul.

Daw'r rhybudd wrth i'r cynnydd o 1.2% mewn taliadau gychwyn pan fydd gweithiwr yn ennill £5,000 yn hytrach na'r £9,100 cynt.

Daw'r newid yn dilyn cynnydd o 6.7% yn y cyflog byw, a ddaeth i rym wythnos ddiwethaf.

Mae'r Ceidwadwyr yn disgrifio'r newid fel "treth ar swyddi" tra bod un o arweinwyr y diwydiant lletygarwch yn dweud y bydd effaith negyddol ar greu swyddi.

Dywedodd Kate Nicholls, prif weithredwr UKHospitality fod y cynnydd yn "mynd i fwrw busnesau a gweithwyr ar draws y DU."

"Bydd y sgil effeithiau yn llwm, gydag oriau staff yn gostwng, oriau gwaith yn gostwng, prisiau yn cynyddu ac y gwaethaf, swyddi yn cael eu colli," meddai.

"Mae'r cynnydd dinistriol hwn nid yn unig yn taro lleoliadau a chymunedau lletygarwch, ond uchelgais Llywodraeth y DU i gael pobl yn ôl i'r gwaith.

"Mae angen sectorau fel lletygarwch i greu swyddi i gael pobl allan o’r system les ond bydd y codiadau treth hyn yn cael effaith ar greu swyddi.”

'Dim yn benderfyniad hawdd'

Dywedodd y Canghellor, Rachel Reeves byddai'r newid yn creu £25 biliwn y flwyddyn erbyn 2029.

Ychwanegodd nad oedd y penderfyniad "yn un hawdd i'w gwneud."

Mae'r Ceidwadwyr yn cyhuddo'r llywodraeth o "daro busnesau gyda threth ar gosbi swyddi."

Wrth gyfeirio at dariffau 10% ar fewnforion y DU gan Donald Trump, dywedodd y gweinidog cysgodol dros fusnes a masnach, Andrew Griffith bod cwmnïau Prydain "eisoes ar eu gliniau."

"Dydyn nhw ddim yn deall bod hyn yn fusnes, nid llywodraeth fawr. Os nad ydyn nhw'n gwneud tro pedol yn sydyn, y gweithwyr fydd yn talu'r pris."

Mae'r Prif Weinidog Syr Keir Starmer yn cydnabod bod yr argyfwng costau byw yn cael effaith ar bobl.

Dywedodd bod y cynnydd mewn biliau ar ddechrau'r mis wedi cynyddu'r pwysau ar rai pobl.

“Dw i’n meddwl i’r mwyafrif o bobl, bydden nhw’n dweud bod yr argyfwng costau byw yn parhau, ac maen nhw’n teimlo’r pwysau yn ariannol," meddai wrth Sky News.

“Dyna pam ei bod mor bwysig i ni wneud yn iawn am ein haddewid y byddai pobl yn teimlo’n well, ac mae’r cyflog byw cenedlaethol sy’n codi heddiw o £1,400 ar gyfartaledd yn mynd i effeithio ar filiynau o bobl, felly yn eu pecyn cyflog y mis hwn, ac yn amlwg am fisoedd i ddod, byddan nhw nawr yn cael mwy o arian.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.