Newyddion S4C

Arestio AS Llafur ar amheuaeth o ymosod yn rhywiol ar ferch a threisio

Dan Norris
Dan Norris

Mae AS Llafur Dan Norris wedi cael ei arestio ar amheuaeth o droseddau sy'n cynnyws treisio ac ymosod yn rhywiol ar ferch.

Cafodd yr AS dros Ddwyrain Gwlad yr Haf a Hansham ei wahardd gan y blaid ar ôl iddyn nhw fod yn ymwybodol ei fod wedi cael ei arestio.

Mae'r chwip wedi cael ei gymryd oddi wrtho hefyd.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid "nad oes modd iddynt roi sylw pellach tra bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal."

Mewn datganiad dywedodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf bod dyn yn ei 60au wedi cael ei arestio ddydd Gwener ar amheuaeth o droseddau rhyw yn erbyn merch, treisio, cipio plant a chamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

Mae'r dyn bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol wrth i ymholiadau barhau.

"Ym mis Rhagfyr 2024, roeddem wedi derbyn gwybodaeth gan lu heddlu arall yn ymwneud â throseddau rhyw plant hanesyddol wedi’u cyflawni yn erbyn merch," meddai'r llu.

"Yr honiad ydy bod rhan fwyaf o'r troseddau yma wedi digwydd yn y 2000au, ond rydym hefyd yn ymchwilio i dreisio honedig o'r 2020au."

Ychwanegodd y llu bod eu hymchwiliad yn parhau a'u bod yn gofyn i bobl beidio â dyfalu amgylchiadau.

Llun: Dan Norris

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.