Criwiau yn brwydro tanau gwyllt yn y gogledd
Mae criwiau tân wedi eu galw i frwydro dau dân gwyllt yng ngogledd Cymru.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i Rhydd Ddu, yng Ngwynedd yn dilyn adroddiadau o dân gwyllt.
Mae lluniau sydd wedi eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos tân wedi ymledu drwy ardal o goedwig a mwg trwchus yn codi.
Mewn datganiad, dywedodd y Gwasanaeth bod criwiau yn yr ardal ac yn gweithio i ddiffodd y tân.
Mae criwiau hefyd wedu eu galw i dân ar Fynydd Llanfairfechan yn dilyn adroddiadau o dân gwyllt.
Dywedodd eu bod yn "ymwybodol" o'r tân ac yn parhau i fonitro'r ardal, gan fynnu nad oedd "achos i bryderu".
Llun: Tân yn Rhyd Ddu (Facebook)