Elin Jones i roi'r gorau i'w swydd fel Llywydd y Senedd
Elin Jones i roi'r gorau i'w swydd fel Llywydd y Senedd
Mae Llywydd y Senedd, Elin Jones, wedi dweud y bydd yn rhoi’r gorau i’r swydd ar ôl yr etholiad nesaf.
Mae’r Aelod Seneddol dros Geredigion wedi bod yn Llywydd ers 2016, ac fe fydd wedi gwasanaethu yn y rôl ers degawd erbyn yr etholiad.
Mae Ms Jones wedi bod yn Aelod o’r Senedd dros Plaid Cymru ers sefydliad Cynulliad Cymru yn 1999.
Wrth ymateb i'w phenderfyniad i sefyll i lawr, dywedodd Cadeirydd Plaid Cymru, Llŷr Gruffydd AS: "Am bron i ddegawd fel Llywydd mae Elin wedi gwasanaethu’r Senedd yn ddiflino.
"Fel Llywydd hi oedd yr Aelod oedd yn gyfrifol am y Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) yn 2020 a roddodd y bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed, a sicrhaodd fod gan ein Senedd enw oedd yn deilwng o’i statws a’i chyfrifoldebau.
"Yn ystod pandemig byd-eang roedd Elin yn benderfynol y byddai’r Senedd yn parhau i gyflawni ei dyletswydd o ddwyn y llywodraeth i gyfrif drwy fod ymysg y seneddau cyntaf yn y byd i gyfarfod yn rhithiol.
"Mae’r dyfeisgarwch hwnnw yn parhau heddiw gyda chyfarfodydd hybrid, ac mae ein Senedd yn fwy cyfoes, hyblyg a chynhwysol o’r herwydd.
'Braint'
Cyn dod yn Llywydd yn 2016 roedd hi'n weinidog yn ystod y glymblaid Llafur a Phlaid Cymru.
Gweinidog dros Faterion Gwledig yn Llywodraeth Cymru’n Un roedd ei swydd rhwng 2007 a 2011.
Cafodd ei phenodi i rôl y Llywydd fis Mai 2016 wedi iddi drechu'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, hefyd o Blaid Cymru, o 34 pleidlais i 25, gydag un aelod yn ymatal ei bleidlais.
Dywedodd ar y pryd bod cael ei hethol yn "fraint" ac yn "anrhydedd".
Yn 2012, fe wnaeth ymgais i fod yn arweinydd ar Plaid Cymru.
Fe wnaeth hi sefyll yn erbyn Leanne Wood, gan golli o 41% i 55%.
Ym mis Mai 2023, dywedodd Ms Jones na fyddai yn rhoi ei henw ymlaen i fod yn arweinydd newydd y blaid.
Daw'r cyfle hwnnw wedi i Adam Price gyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo, yn dilyn beirniadaeth o'r modd yr oedd wedi ymateb i honiadau o gamymddygiad yn erbyn aelodau blaenllaw'r blaid.
“Paid panico Mam, fi ddim yn mynd i sefyll! Fydda i ddim yn sefyll i fod yn Arweinydd Plaid Cymru," meddai ar y pryd.