Newyddion S4C

Tân gwyllt wedi difrodi rhan enfawr o dir yng Ngwynedd

Tân Rhyd Ddu

Mae tân gwyllt wedi difrodi rhan enfawr o dir yn Rhyd Ddu yng Ngwynedd ddydd Sadwrn.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod o leiaf 30 diffoddwr tân wedi brwydro tanau gwyllt wnaeth ledaenu'n sydyn.

Fe wnaeth y tân ymledu o lwyni ger llinell y rheilffordd yn Rhyd Ddu i gyfeiriad Coedwig Beddgelert  brynhawn a nos Sadwrn.

Ychwanegodd y gwasanaeth tân eu bod wedi derbyn galwad 999 tua 14:17 a bod criwiau wedi brwydro'r tân tan 21:00.

Roedd criwiau o Gaernarfon, Bangor, Blaenau Ffestiniog, Harlech a Betws-y-Coed wedi cael eu galw i'r digwyddiad.

Yn ogystal roedd dwy injan tân llai, oedd yn gallu gyrru lawr ffyrdd cul, wedi dod o Langefni a Phorthmadog.

Cafodd tua 350,000 metr sgwâr o dir ei ddifrodi, meddai'r gwasanaeth tân.

Cafodd y maes parcio ger ffordd yr A4085 ei gau gan Gyfoeth Naturiol Cymru, er mwyn galluogi'r criwiau tân "gwblhau eu gwaith rhag unrhyw rwystrau."

Image
Tan
Fe wnaeth y tân ledaenu i Goedwig Beddgelert

Roedd y criwiau yn llwyddiannus wrth ddiffodd y tân mewn rhai mannau er mwyn ei atal rhag lledaenu ymhellach.

Fe aeth criwiau allan i leoliad y tân fore Sul er mwyn archwilio ymhellach.

Dros y dyddiau diwethaf mae criwiau wedi bod yn brwydro yn erbyn tanau ar draws Cymru.

Ar hyn o bryd mae gwasanaeth tân y de yn delio gyda thanau ger Parc Gwledig Bryngarw ym Mhen-y-bont ar Ogwr a hefyd ar Rodfa Harris.

Fis Mawrth eleni oedd yr ail fwyaf heulog yng Nghymru ar record, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Prif Lun: Iwan Williams

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.