‘Anafiadau sylweddol’ i fachgen 15 oed ar ôl cael ei daro gan gar yn y Rhyl
Mae dyn wedi’i arestio ar ôl i fachgen 15 oed ddioddef anafiadau sylweddol mewn gwrthdrawiad yn y Rhyl nos Sadwrn.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth wedi i’r bachgen gael ei daro gan gar a fethodd a stopio yn dilyn y digwyddiad.
Cafodd swyddogion eu galw i Ffordd Wellington am 21:12 nos Sadwrn ar ôl adroddiadau fod cerddwr wedi cael ei daro gan gar Suzuki S Cross glas.
Fe wnaeth bachgen 15 oed ddioddef anafiadau sylweddol, “ond yn ffodus, nid yn rhai a fydd yn peryglu na newid ei fywyd”, yn ôl y llu.
Yn dilyn ymholiadau, fe ddaeth swyddogion o hyd i’r cerbyd yr oeddent yn credu oedd ynghlwm â’r digwyddiad.
Cafodd dyn ei arestio ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â’r gwrthdrawiad, ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Mae’r heddlu wedi apelio am unrhyw wybodaeth gan dystion oedd yn yr ardal ar y pryd, neu i unrhyw un a all fod â lluniau camera dash yn eu meddiant, i gysylltu â nhw.
Mae modd rhannu gwybodaeth am y digwyddiad drwy cysylltu â Heddlu Gogledd Cymru gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod C048044.