Criced: Lloegr yn osgoi chwalfa yn Awstralia

Llun: Criced Lloegr
Criced Lloegr

Mae Lloegr wedi ennill pedwaredd prawf Cyfres y Lludw yn erbyn Awstralia ym Melbourne.

Dyma'r tro cyntaf i Loegr ennill mewn 18 gêm yn Awstralia, ac yn golygu eu bod wedi llwyddo i osgoi chwalfa 0 5-0 yn y gyfres.

Roedd angen 175 rhediad ar yr ymwelwyr er mwyn ennill y prawf cyn i'r chwarae gychwyn nos Wener.

Fe wnaethon nhw gyrraedd y targed hwnnw o fewn 198 peliad.

Mae'r fuddugoliaeth yn rhyw fath o gysur i gefnogwyr sydd wedi teithio i ochr arall y byd i wylio'r gyfres.

Dyma oedd eu buddugoliaeth gyntaf mewn gêm brawf ers 2011.

Fe gollodd Lloegr y gyfres mewn 11 diwrnod o griced yn unig, a dyma’r pedwerydd tro’n olynol iddyn nhw golli cyfres y Lludw.

Bydd gêm olaf y gyfres yn cael ei chwarae yn Sydney ar 4 Ionawr.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.