Newyddion S4C

Disgwyl 10 mlynedd am ddiagnosis endometriosis yn 'annerbyniol'

Disgwyl 10 mlynedd am ddiagnosis endometriosis yn 'annerbyniol'

Mae’r DJ a chyflwynwraig Molly Palmer wedi galw am fwy o ymwybyddiaeth am endometriosis yn y byd meddygol a thu hwnt ar ôl disgwyl mwy ‘na ddegawd am ddiagnosis. 

Daw wrth i elusen ddweud bod ei chyfnod o ddisgwyl 10 mlynedd am ddiagnosis yn "annerbyniol." 

Cafodd Molly ddiagnosis o endometriosis – sef cyflwr ble mae celloedd tebyg i'r rhai yn leinin y groth yn tyfu mewn rhannau eraill o'r corff – y llynedd, a hithau’n 25 oed ar y pryd. 

Fe aeth at ei meddyg teulu am y tro cyntaf gyda phoen difrifol wael adeg ei mislif yn ferch 12 oed. 

Ond nid y gyflwynwraig yw'r unig un sydd wedi wynebu oedi o’r fath wrth geisio cael diagnosis am y cyflwr sy’n achosi poen difrifol, mislif trwm, blinder a phroblemau ffrwythlondeb.

Yng Nghymru, mae un o bob 10 menyw a phobl a gafodd eu geni’n fenywod yn byw ag endometriosis. 

Ar gyfartaledd, mae’n cymryd 9 mlynedd ag 11 mis iddynt gael diagnosis – sef cynnydd o 9 mlynedd yn 2020. 

Mae hyn yn golygu mai pobl Cymru sy’n wynebu’r oedi mwyaf o ran disgwyl am ddiagnosis endometriosis o bob gwlad yn y Deyrnas Unedig, yn ôl yr elusen Endometriosis UK.

Image
Molly Palmer
Molly wedi iddi gael llawdriniaeth i fynd i'r afael â'i phoen

'Angen newid'

Wedi iddi gyfweld ag arbenigwyr a menywod eraill sy’n dioddef gyda’r cyflwr fel rhan o raglen ddogfen newydd o’r enw Endo a Fi, mae’r gyflwynwraig bellach yn benderfynol na ddylai rhagor o bobl dioddef yn sgil diffyg ymwybyddiaeth. 

“Os ti’n mynd i’r GP, s’dim lot ohonyn nhw’n rili gwybod digon am endometriosis,” meddai Molly wrth siarad â Newyddion S4C

“I fi, mae angen i hwnna newid. Os ma’ pobl yn mynd mewn yn disgrifio poen endometriosis mae rhaid i GP’s dechrau meddwl: ‘Actually, gall hwn bod yn endometriosis’.” 

Ac er nad oes ganddi brofiad personol o dderbyn cymorth meddygol drwy’r Gymraeg, mae’n dweud ei bod yn pryderu y gallai Cymry Cymraeg wynebu oedi pellach eto. 

“Mae’r amser aros i gael diagnosis yn ddigon hir, os oeddech chi am aros i gael mynediad i adnoddau Cymraeg i gael diagnosis o endometriosis – alla’i ddim dychmygu faint o amser bydd hynny’n cymryd.”

Image
Endo a Fi
Molly Palmer yn codi ymwybyddiaeth am endometriosis ar ei rhaglen Endo a Fi gan Hansh

'Annerbyniol'

Yn ôl Faye Farthing o Endometriosis UK, mae’r oedi y mae pobl yn eu hwynebu yn “annerbyniol.” 

“Mae’n cyfrannu i’r dioddefaint mae pobl sy’n byw a’r cyflwr yn profi,” meddai. 

“Gall gael effaith sylweddol, ac ar adegau dinistriol ar bob agwedd o’ch bywyd: addysg, gyrfa, perthnasau, ffrwythlondeb ac iechyd meddwl.” 

Mae’r elusen yn cytuno â galwadau Molly gan ddweud y dylai gwella cymorth meddygol am endometriosis fod yn “blaenoriaeth genedlaethol.”

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae gwneud newidiadau o’r fath ymhlith eu blaenoriaethau o ran iechyd menywod. 

“Rydym eisoes wedi ariannu nyrsys endometriosis ym mhob bwrdd iechyd, wedi datblygu gwefan Endometriosis Cymru ac wedi darparu £50 miliwn o gyllid ychwanegol i helpu i dorri’r amseroedd aros hiraf,” medd llefarydd. 

Dywedodd eu bod yn hefyd cydweithio gyda meddygon teulu er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr. 

Ond mae ‘na waith eto i wneud, meddai Molly: "S'dim lot o bobl yn deall y cyflwr. 

"I lot o bobl yn y gweithle dyw e ddim yn esgus digon dda i fynd adre' os mae mislif boenus gyda ti felly mae 'na lot o onglau sydd angen newid o ran ymwybyddiaeth. 

"Yr ochr cymdeithasol a'r ochr meddygol hefyd." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.