'Yr yrfa berffaith': Nic Parry yn ymddeol o'i swydd fel barnwr Llys y Goron
Mae Nic Parry wedi diolch i'w gydweithwyr yn y llys wrth iddo ymddeol o'i swydd fel barnwr Llys y Goron.
Roedd Llys y Goron yr Wyddgrug yn orlawn ddydd Gwener wrth i Nic Parry gychwyn ar ei ddiwrnod olaf fel barnwr llawn amser.
Yn ogystal â bargyfreithwyr a staff y llys, roedd teulu Mr Parry hefyd yn bresennol yno.
Dechreuodd ei waith yn y llys yn 2000 fel cofiadur, cyn cael ei benodi fel barnwr yn 2010, yn bennaf yn gweithio yn Llys y Goron yr Wyddgrug.
Mae Nic Parry yn llais cyfarwydd i nifer fel sylwebydd Sgorio ar gemau rhyngwladol Cymru a gemau'r Cymru Premier JD ar S4C hefyd.
'Mynd i'w golli'
Wrth siarad yn y llys ddydd Gwener, roedd y Barnwr Rhys Rowlands llawn canmoliaeth i Mr Parry am ei yrfa lwyddiannus.
“Mae penodiad y Barnwr Parry, yn fy marn i, wedi bod yn llwyddiant llwyr," meddai.
"Nid yn unig y mae'n dda yn ei swydd, nid yn unig mae'n deg ac yn hynod effeithlon, ond mae bob amser yn gwrtais i'r rhai sy'n ymddangos o'i flaen.
“Mae’n ddyn â stamina rhyfeddol, bob amser yn barod i wirfoddoli i gymryd rhan mewn prosiectau i siarad am waith y llysoedd i bobl o bob oed.
“Ar nodyn personol, mae ein gyrfaoedd barnwrol wedi cymryd yr un llwybr bron yn union; cafodd y ddau ohonom ein penodi'n llawn amser ym mis Mawrth 2010.
“Mae’n gefnogol ac yn hynod o hwyl y tu ôl i’r llenni.
“Ni allwn fod wedi dymuno cael cydweithiwr gwell ac fel ei gyd-feirniaid a’r holl staff, rydym yn mynd i’w golli.”
'Balchder mawr'
Siaradodd Mr Parry yn y llys ddydd Gwener am ei gyfnod ef fel barnwr.
Diolchodd i'w staff a chydweithwyr, gan ddweud ei fod yn falch o dreulio ei amser yn y swydd gyda nhw.
"Beth oedd o fel? Oedd o'n dda? Dwi'n gwybod mai dyna'r sgwrs sydd yn digwydd pan mae barnwr yn gadael," meddai.
"Mae'r ateb yn dibynnu ar bwy ydych chi'n gwrando ar.
"Yn syml, mae pethau yn cael eu gwneud yn gywir fan hyn.
"Ac mae hynny oherwydd y rhan rydych chi, y staff a'r bargyfreithwyr yn chwarae pob dydd.
"Mae gen i falchder mawr wrth wylio chi'n chwarae rhan yn yr hyn dwi'n ystyried i fod yr yrfa berffaith.
"Dwi'n falch fy mod i wedi treulio hynny efo chi."