Elton John 'methu gweld ei blant yn chwarae' wrth iddo golli ei olwg
Mae Syr Elton John yn dweud bod methu gweld ei blant yn chwarae oherwydd nam golwg yn "emosiynol" iddo.
Dywedodd y seren roc y llynedd bod ganddo "haint llygaid difrifol" sydd wedi ei adael "gyda golwg cyfyngedig yn unig mewn un llygad."
Ychwanegodd nad yw'n gallu "gweld y teledu" a "heb allu gweld unrhyw beth ers Gorffennaf y llynedd."
Yr hyn sydd yn fwyaf trist oedd methu gweld ei blant yn chwarae, meddai wrth The Times.
"Dydw i methu darllen. Dydw i ddim yn gallu gweld fy mhlant yn chwarae pêl-droed a rygbi, ac mae wedi bod yn gyfnod anodd.
"Chi'n mynd yn emosiynol, ond mae rhaid i ti ddod i'r arfer achos dwi mor lwcus i fyw'r bywyd hwn.
"Dwi dal efo fy nheulu hyfryd, a dwi dal yn gallu gweld rhywbeth allan o hyn."
Ym mis Rhagfyr, cyfaddefodd nad oedd wedi gallu gwylio ei sioe gerdd newydd, The Devil Wears Prada, oherwydd y problemau gyda'i olwg.
“Dydw i ddim wedi gallu dod i lawer o’r sioeau oherwydd, fel rydych chi'n gwybod, dwi wedi colli fy ngolwg."
Llun: PA