Y Brenin yn cyhoeddi 'newydd da' am ei driniaeth canser

Llun: PA
Brenin Charles

Mae’r Brenin wedi cyhoeddi’r “newyddion da” y bydd ei driniaeth canser yn cael ei lleihau yn y flwyddyn newydd, a hynny gyda “diolch i ddiagnosis cynnar, ymyrraeth effeithiol a glynu wrth orchmynion meddygon.”

Mewn neges fideo a gafodd ei ddarlledu ar Channel 4 fel rhan o ymgyrch 'Stand Up To Cancer', dywedodd y Brenin: "Mae'r garreg filltir hon yn fendith bersonol ac yn dystiolaeth o'r datblygiadau rhyfeddol sydd wedi'u gwneud mewn gofal canser."

Y newyddion yma, sef fod y Brenin yn ymateb yn dda i driniaeth yw'r diweddariad mwyaf ar ei iechyd ers iddo ddatgelu ei ddiagnosis ym mis Chwefror 2024.

Nid yw'r union fath o ganser wedi'i ddatgelu ac fe fydd triniaeth a monitro yn parhau, ond dywedodd y Brenin "fod derbyn diagnosis cynnar yn achub bywydau."

Yn ôl Palas Buckingham, mae adferiad y Brenin wedi cyrraedd cam cadarnhaol iawn ac mae wedi "ymateb yn eithriadol o dda i driniaeth", cymaint felly fel y bydd meddygon bellach yn newid ei driniaeth "fel cam gofalus" ymlaen.

Mae disgwyl i'w driniaeth gael ei leihau'n sylweddol yn y flwyddyn newydd - ond nid yw'r Brenin, 77 oed, yn cael ei ddisgrifio fel un sydd mewn "adferiad llwyr" nac wedi "gwella" o'r cyflwr.

Chwaraewyd y neges fideo, a recordiwyd yn Clarence House bythefnos yn ôl, fel rhan o sioe 'Stand Up To Cancer' ar Channel 4 nos Wener, gyda'r rhaglen yn dangos nifer o brosiectau codi arian sy'n cael eu cynnal gan Ymchwil Canser y DU.

Mae'r ymgyrch yn annog mwy o bobl i gael eu profi am ganser ac i fanteisio ar gynlluniau sgrinio cenedlaethol - ac roedd neges y Brenin yn pwysleisio pwysigrwydd archwiliadau i ddal canser yn gynnar.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.