'Dim rheswm' i gadw cynllun atal yfed a gyrru at y Nadolig yn unig
Mae elusen yn dweud bod "dim rheswm" i gadw cynllun atal yfed a gyrru gan Heddlu De Cymru at y Nadolig yn unig.
Mewn ymdrech i leihau’r nifer o achosion o yfed a gyrru, mae cynllun gan y llu yn cynnig diodydd meddal am ddim i rheiny sy’n yrwyr dynodedig (designtaed drivers) am y noson.
Dyma'r bedwaredd flwyddyn i'r cynllUn gael ei weithredu, ond nid oes gostyngiad sylweddol wedi bod yn y nifer o achosion yfed a gyrru.
Bydd y person sydd yn gyrru yn derbyn band sy’n golygu eu bod nhw’n medru cael diodydd meddal am ddim, ac mae 120 o leoliadau ar draws de Cymru yn cymryd rhan yn y cynllun.
Yn ôl un elusen, mae’n rhaid mynd yn bellach i afael a’r broblem, a hynny yn fwy nag adeg y Nadolig yn unig.
“Falle dim hwn yw’r cynllun pwysicaf, ma' 'na bethau eraill o ran gyrru’r neges allan o ran peidio yfed cyn gyrru," meddai Andrew Missel o elusen Alcohol Change UK.
"Ma' gwaith i’r heddlu wneud wrth gwrs o ran gadael pobl wybod y byddan nhw‘n cael ei dal os yn yfed a gyrru, ond yn sicr ma’ cynlluniau fel yma yn un rhan o’r jigso.
"Mae 'na broblem o ran yfed a gyrru adeg y Nadolig – adeg yfed mawr i nifer fawr o bobl.
"Ond mae’n broblem aruthrol yn yr haf hefyd, a trwy’r flwyddyn, felly does dim rheswm dros gadw cynllun fel yma at y Nadolig yn unig.”
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru eu bod wedi "cynnal 2,300 o brofion gyda 70 o ganlyniadau positif ers dechrau mis Rhagfyr" fel rhan o'r cynllun.
Dros y pedair blynedd diwethaf, mae’r nifer o achosion yfed a gyrru yn ne Cymru wedi aros yn weddol gyson er gwaethaf ymdrechion fel y cynllun DES.
O 2020 i fis Mawrth eleni, roedd yna 358 o ddamweiniau yn y de yn ymwneud ag yfed a gyrru.
Y terfyn alcohol cyfreithlon ar gyfer gyrru yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yw 35 microgram o alcohol am bob 100 mililitr o anadl.
Ond, mae gan Lywodraeth San Steffan gynlluniau i leihau hyn i 22 microgram, yn unol â’r terfyn yn yr Alban.
Yn groes i’r farn gyffredin, mae’r terfyn alcohol cyfreithlon yn seiliedig ar faint o alcohol sy’n y gwaed neu’r anadl – nid y nifer o unedau na’r nifer o ddiodydd.
Mae hynny gan fod amrywiaeth o ffactorau yn effeithio ar sut mae’r corff yn prosesu alcohol – fel pwysau, y math o alcohol sy'n cael ei yfed a faint mae person wedi bwyta o flaen llaw.
Ond, gall unrhyw swm o alcohol amharu ar allu i yrru.
Yn ôl Heddlu De Cymru, mae’r cyfrifoldeb yn "cwympo ar unigolion i beidio gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
"Cyfrifoldeb yr heddlu yw i orfodi’r gyfraith, ac fel rhan o’n hymgyrch i fynd i’r afael ag yfed a gyrru, rydym wedi cynnal 2,300 o brofion gyda 70 o ganlyniadau positif ers dechrau mis Rhagfyr."