Cyhuddo dyn o lofruddio ar ôl i fachgen o dde Cymru gael ei drywanu yn ei wddf
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth ar ôl i fachgen 16 oed o dde Cymru gael ei drywanu yn ei wddf.
Digwyddodd y trywanu honedig yng nghanol dref Huddersfield tua 12:45 ddydd Iau, meddai Heddlu Sir Efrog.
Dioddefodd Ahmad Mamdouh Al Ibrahim, oedd wedi symud o dde Cymru i Huddersfield, clwyf i'w wddf a fu farw yn yr ysbyty.
Mae Alfie Franco, 20 oed, wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth a bod â chyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus, meddai'r llu.
Fe ymddangosodd yn Llys Ynadon Leeds ddydd Sadwrn, ond ni chafodd ple ei gyflwyno.
Fe fydd Mr Franco yn ymddangos o flaen y llys nesaf ar 8 Ebrill.
Dywedodd yr heddlu nad oedd y digwyddiad yn berthnasol i unrhyw anghydfod rhwng gangiau.
Cafodd dyn 22 oed a dynes 20 oed eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr ac maent bellach wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Mae ymholiadau'r heddlu yn parhau.