Disgwyl canolfan ymwelwyr newydd ar Moel Famau er gwaethaf gwrthwynebiad
Mae disgwyl i ganolfan ymwelwyr newydd gael ei hadeiladu ar Foel Famau er gwaethaf gwrthwynebiad.
Mae Cyngor Sir Dinbych wedi gwneud cais i’w swyddfa gynllunio ei hun i gael codi'r adeilad ychydig dros filltir o gopa uchaf Bryniau Clwyd.
Byddai'r adeilad newydd ar safle Maes Parcio Pen Barras sy’n fan cychwyn i gerddwyr i frig y bryn 554m o uchder.
Bydd y ganolfan yn cynnwys toiledau, caffi, canolfan dwristiaeth a swyddfeydd.
Ond mae’r cyngor wedi derbyn degau o lythyrau yn gwrthwynebu'r cynllun gan godi pryderon am ragor o ymwelwyr, traffig, bywyd gwyllt a’r effaith ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AONB).
Dywedodd un gwrthwynebydd nad oedd “caffis a mynyddoedd yn gymysg da fel mae profiad Eryri wedi ei ddangos”.
“Bydd maes parcio llawn ymwelwyr yn defnyddio’r caffi heb unrhyw lefydd ar ôl i bobl sydd eisiau cerdded,” medden nhw.
Ond mae swyddogion cynllunio Sir Ddinbych yn argymell bod y pwyllgor yn cefnogi'r cynlluniau.
Daw adroddiad cynllunio i’r casgliad: “Yr ystyriaeth allweddol yw egwyddor - a yw’r egwyddor o ddatblygu adeilad yn y lleoliad cefn gwlad agored hwn mewn man amlwg yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn dderbyniol?
“Canlyniad y cynnig fyddai gwella cyrchfan dwristiaeth bresennol sy’n canolbwyntio ar weithgareddau awyr agored.”
Cefnogodd Cyngor Cymuned Llanferres y cynllun ond dywedodd y gallai fod angen mwy o leoedd parcio.
Nid oedd unrhyw wrthwynebiad gan gydbwyllgor ymgynghorol Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
“Mae’r cydbwyllgor yn parhau i gefnogi’r cynnig hwn ar y sail y bydd yn gwasanaethu’r niferoedd presennol o ymwelwyr yn y lleoliad hwn ac yn disodli’r cyfleusterau dros dro sydd ar gael,” medden nhw.
Mae disgwyl i'r mater gael ei drafod yng nghyfarfod pwyllgor cynllunio Sir Ddinbych ddydd Mercher ym mhencadlys y cyngor yn Neuadd y Sir yn Rhuthun.