Newyddion S4C

'Diffyg atebion': Byw gyda ffibromyalgia yng Nghymru

ITV Cymru

'Diffyg atebion': Byw gyda ffibromyalgia yng Nghymru

Mae'r degawd diwethaf wedi bod yn heriol i Cadi Vaughan-Roberts, 25, o Gaerdydd, sy'n byw gyda ffibromyalgia.

Ar ôl syrthio oddi ar geffyl yn eu harddegau, maen nhw wedi treulio blynyddoedd o chwilio am atebion i'w poenau a blinder.

Fe wnaeth Cadi ddechrau teimlo'n anghyfforddus wrth iddynt ddechrau profi symptomau mewn rhannau eraill o'u corff.

“Ges i flinder dros fy holl gorff, roedd breichiau fi’n brifo, ac mae gen i sensitifrwydd i olau a sain," meddai.

“Daeth y symptomau o unman.”

Ar ôl cwpl o flynyddoedd o brofion, roedd meddygon wedi cynnig diagnosis o ffibromyalgia i Cadi - cyflwr cronig sy'n effeithio ar 1 mewn pob 20 o bobl ledled y DU.

Mae Cadi yn disgrifio'r cyflwr fel un sy'n effeithio ar eu bywyd bob dydd:

“Mae yna rywbeth o’r enw 'spoon theory' ar gyfer pobl gydag afiechydon cronig," meddai.

“Lle fydd rhywun heb anabledd gyda deuddeg llwy, mae gen i bedair llwy'r dydd, ac rydw i’n gwario'r llwyau fel egni i wneud pethau normal.

“Dwi’n gwario tair llwy i fynd i’r dre, a nôl… ac wedyn dwi wedi gwario egni fi am y dydd.”

Mae ffibromyalgia wedi profi'n anodd ei ddiagnosio, gyda symptomau tebyg i gyflyrau eraill, fel syndrom blinder cronig ac arthritis gwynegol.

Wrth feddwl am eu profiad o geisio cael diagnosis, mae Cadi’n dweud bod ffibromyalgia yn cael ei ddefnyddio fel "y term ymbarél ar gyfer diffyg atebion".

‘Poen heb esboniad’

“Mae llwyth o ddoctoriaid ddim yn gwybod beth yw ffibromyalgia. Mae jyst yn boen heb esboniad, gyda miliwn o symptomau," meddai.

O'u profiad personol, mae Cadi yn honni nad yw'r GIG wedi bod yn rhagweithiol wrth geisio cefnogi'r rhai sy'n dioddef o ffibromyalgia:

“Dw’i ‘di teimlo’r dicter yn y gymuned ffibromyalgia, oherwydd does dim digon o gymorth.

“Mae rhaid i ni wneud y gwaith ein hunain i gael yr atebion, mae’n rhaid i ni wthio.”

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ei fod yn "ddrwg gennym glywed am yr anawsterau a'r heriau y mae Cadi wedi'u profi." 

“Byddem yn annog Cadi i gysylltu â'n Tîm Pryderon fel y gallwn archwilio unrhyw bryderon ymhellach."

'Dim mwy o waith'

Un adnodd mae llawer sy'n dioddef o ffibromyalgia yn ei dderbyn, gan gynnwys Cadi, yw'r Taliad Annibyniaeth Personol - y budd-dal anabledd PIP.

Mae'r Prif Weinidog Eluned Morgan wedi awgrymu bydd y toriadau lles sydd wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn "effeithio yn fwy ar Gymru".

Yn sgil hyn, mae Cadi yn poeni am sut fydd y toriadau yn effeithio ar y gymuned ffibromyalgia:

“Mae jyst yn drist bod nhw ddim gydag unrhyw empathi am y ffaith bod pobl yn delio gyda hyn bob dydd, drwy’r dydd, am weddill eu bywyd.”

Mae’r budd-dal PIP yn hollbwysig i Cadi a’r rhai sy'n byw gyda ffibromyalgia, yn ogystal â chyflyrau ac anableddau eraill.

“Chi methu byw jyst ar PIP - ‘dyw e ddim yn daliad mas o waith; mae’n daliad ecwiti," meddai.

“Mae lot o bobl sy’n derbyn PIP dal yn gweithio, fel fi.

“Mae’r Llywodraeth Lafur yn gofyn i bobl fynd yn ôl i’r gwaith, ond dydyn nhw ddim yn rhoi mwy o waith.”

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau: “Bydd ein diwygiadau yn datgloi gwaith i bobl sâl ac anabl sy'n gallu ac eisiau bod mewn cyflogaeth - gyda chefnogaeth gwerth £1 biliwn i warantu cymorth wedi'i deilwra i mewn i waith.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.