‘Mae marchnadoedd yn chwalu’ medd aelod o gabinet Donald Trump
Mae aelod o gabinet Donald Trump wedi dweud bod marchnadoedd ariannol "yn chwalu” ond y gallai hynny fod yn beth da i’r Unol Daleithiau.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor, Marco Rubio mai cwmnïau oedd yn gweithredu mewn modd oedd yn “ddrwg i’r Unol Daleithiau” oedd cael eu taro galetaf.
Mae gwerth mynegai y 500 cwmni mwyaf ar farchnad stoc yr Unol Daleithiau wedi syrthio 4% ddydd Gwener a dros 10% dros y mis diwethaf.
Mae gwerth mynegai 100 cwmni mwyaf y DU hefyd wedi syrthio 4.85% ddydd Gwener.
Daw’r chwalfa wedi i arlywydd yr UDA gadarnhau y bydd tariffau o 10% ar nwyddau sy’n cael eu mewnforio i’r Unol Daleithiau o 5 Ebrill ymlaen.
Mae nifer o wledydd yn wynebu tariffau uwch, gan gynnwys 20% ar yr Undeb Ewropeaidd a 34% ar China.
Wrth siarad ddydd Gwener dywedodd Marc Rubio: “Mae marchnadoedd yn chwalu am eu bod nhw’n seiliedig ar werth cwmnïau sydd wedi'u hymgorffori mewn dulliau cynhyrchu sy'n ddrwg i'r Unol Daleithiau.”
Ond dywedodd nad oedd “economïau yn chwalu” ac y bydd cwmnïau yn “addasu” i’r drefn newydd.
“Yn y pen draw, mae marchnadoedd, cyn belled â'u bod yn gwybod beth fydd y rheolau wrth symud ymlaen, bydd y marchnadoedd yn addasu,” meddai.
“Mae angen i fusnesau ledled y byd, gan gynnwys masnach fyd-eang, wybod beth yw'r rheolau.
“Unwaith y byddant yn gwybod beth yw'r rheolau, byddant yn addasu i'r rheolau hynny.
“Felly dydw i ddim yn meddwl ei bod yn deg dweud bod economïau yn chwalu.”