Cyhuddo'r digrifwr Russell Brand o dreisio
Mae’r digrifwr a’r actor Russell Brand wedi’i gyhuddo o droseddau rhyw, gan gynnwys treisio.
Fe wnaeth yr heddlu ddechrau ymchwilio ar ôl adroddiadau am dreisio, ymosodiadau rhywiol a cham-drin emosiynol honedig gan nifer o fenywod.
Roedd yr honiadau yn rhan o ymchwiliad ar y cyd gan The Sunday Times, The Times a Channel 4 Dispatches ym mis Medi 2023.
Mae Heddlu'r Met bellach wedi cyhuddo Brand o un cyhuddiad yr un o dreisio, ymosod yn anweddus a threisio geneuol.
Mae hefyd yn wynebu dau gyhuddiad o ymosodiad rhywiol, yn ymwneud â phedair menyw unigol.
Bydd Brand yn ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ar ddydd Gwener 2 Mai.
Mae wedi gwadu’r cyhuddiadau o’r blaen, gan ddweud bod pob perthynas rywiol a gafodd “yn hollol gydsyniol”.
'Cysylltu'
Mae’r cyhuddiadau yn ymwneud â digwyddiadau honedig rhwng 1999 a 2005.
Mae Brand wedi’i gyhuddo o dreisio dynes yn 1999 yn ardal Bournemouth ac o dreisio geneuol ac ymosodiad rhywiol ar ddynes yn 2004 yn ardal Westminster yn Llundain.
Mae hefyd wedi’i gyhuddo o ymosod yn anweddus ar ddynes yn 2001 ac ymosod yn rhywiol ar ddynes arall rhwng 2004 a 2005.
Honnir bod y ddwy drosedd wedi digwydd yn Westminster, Llundain.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Andy Furphy o Heddlu'r Met: “Mae’r merched sydd wedi gwneud adroddiadau yn parhau i dderbyn cefnogaeth gan swyddogion sydd wedi derbyn hyfforddiant arbenigol.
“Mae ymchwiliad y Met yn parhau ac mae ymchwilwyr yn gofyn i unrhyw un sydd wedi cael eu heffeithio, neu unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth, i gysylltu â siarad â’r heddlu.
“Mae tîm ymroddedig o ymchwilwyr ar gael trwy e-bost CIT@met.police.uk.
“Mae cefnogaeth hefyd ar gael bob awr o’r dydd trwy gysylltu â’r elusen annibynnol, Rape Crisis drwy Linell Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol.”