
Grand National: Dau frawd o Sir Benfro yn anelu am fuddugoliaeth
Grand National: Dau frawd o Sir Benfro yn anelu am fuddugoliaeth
Bydd dau frawd o Sir Benfro ymhlith y 34 joci fydd yn cymryd rhan yn ras geffylau y Grand National ddydd Sadwrn.
Bydd Sean Bowen, 27, yn marchogaeth y ceffyl Three Card Brag, tra bod ei frawd, James ar gefn y ceffyl Chantry House.
Mae’r ddau yn feibion i Peter Bowen, y hyfforddwr ceffylau adnabyddus o Gasnewydd-bach.
Dywedodd Peter Bowen: “S’am gwahaniaeth pwy ofynnwch chi wrth, mae pob joci eisiau ennill y Grand National.
“Mae Sean di bod yn reidio ers oedd e’n bum mlwydd oed. Ef yw’r ail ieuengaf i rasio 1,000 winners ers iddo ddechrau.

“Mae James di neud yr un peth, oedd e’n champion pony racer hefyd. So mae’r ddau di gael good run ar y job.”
Bydd 150,000 yn bresennol yn Aintree, ger Lerpwl, ar gyfer y ras sy’n cael ei hystyried yn un o'r enwocaf yn y byd.
Yr unig dro i geffyl o Gymru ennill y ras oedd yn 1905, pan ddaeth y ceffyl Kirkland dan hyfforddiant Edward Thomas yn gyntaf.
Y joci diwethaf o Gymru i ennill y ras oedd Carl Llywellyn ar Earth Summit, yn 1998.
Mae Sean Bowen wedi cael tymor i’w gofio, ar ôl ennill 1,000fed ras ei yrfa fis Chwefror, tra bod hefyd yn arwain Pencampwriaeth y Jocis.
Er bod ods o 25-1 ar Three Card Brag i ennill, fe allai orffen ymysg y ceffylau yn ôl un arbenigwr.

Dywedodd y cyn joci, Dai Jones: “S’dim byd yn debyg i’r Grand National, yr excitement a’r cwbl lot. Mae e fel yr FA Cup i ni yn y byd rasio – y pinacl.
“Mae Sean Bowen yn redio ceffyl o’r enw Three Card Brag. Mae pwysau ysgafn iawn da ‘fe, 10 stone 4lbs, felly mae good chance da fe i fod yn y pedwar neu pump cyntaf.”
Prif Lun: Sean a James Bowen (Lluniau: Heno)