'Hynod siomedig': Rhybudd am effaith diwedd cynllun llyfrau plant

Lynda Tunnicliffe

Mae un o gyhoeddwyr llyfrau plant mwyaf blaenllaw Cymru wedi dweud y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi ymgynghori gyda'r diwydiant cyhoeddi cyn dweud eu bod am roi'r gorau i ariannu cynllun sydd yn darparu llyfrau am ddim i fabanod.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ddydd Gwener y byddai'n rhoi'r gorau i ariannu pecynnau Dechrau Da ar ddiwedd mis Mawrth, cyn gwneud tro pedol yn ddiweddarach gan ddweud y byddan nhw'n parhau i dalu am y llyfrau nes bod trefn newydd ar waith.

Mae dyfodol y cynllun, sy'n cynnwys anfon llyfr ddwyieithog i filoedd o rieni yng Nghymru bob blwyddyn, yn parhau yn ansicr.

Yr elusen BookTrust Cymru sy'n gyfrifol am weithredu'r cynllun gyda'r bwriad o annog teuluoedd i ddarllen gyda'i gilydd.

Dywedodd Lynda Tunnicliffe, sydd yn rhedeg gwasg Rily yng Nghaerffili, ei bod yn "hynod siomedig" ac wedi "syfrdandu" mai'r tro cyntaf iddi glywed am gynlluniau'r Llywodraeth oedd pan ddaeth y cyhoeddiad ddydd Gwener.

"Rwy'n teimlo ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n rhoi llyfrau i blant, yn enwedig babanod, pan maen nhw'n cael eu geni," meddai wrth Newyddion S4C.

"Mae 'na gymaint o anghydraddoldeb yng Nghymru, mae 'na lawer o deuluoedd sy'n cael trafferth ariannol, ac mae'r cynllun yma yn werthfawr iawn.

"Mae'n rhoi'r dechrau gorau posib mewn bywyd i blant Cymru ac rwy'n hynod siomedig o ddarganfod ei fod yn dod i ben."

Yn ôl BookTrust Cymru mae pecynnau Dechrau Da yn chwarae rhan hanfodol mewn lleihau anghydraddoldeb. 

Mae adroddiad diweddar gan yr elusen yn awgrymu fod 84% o deuluoedd incwm isel yn darllen mwy ar ôl derbyn cefnogaeth. 

'Angen gwell cyfathrebu'

Mae Ms Tunnicliffe yn dweud y bydd y penderfyniad i ddod â'r cynllun i ben "yn mynd i gael effaith uniongyrchol ar ein cwmnïau a'n gweithwyr".

"Dw i'n meddwl y dylid bod wedi ymgynghori gyda'r diwydiant oherwydd rydym wedi elwa o'r comisiynau y mae BookTrust yn eu gwneud i ni," meddai.

Ychwanegodd: "Rydym ni wedi ein syfrdanu oherwydd y sioc ac, a bod yn onest, dydyn ni ddim yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd. 

"Rwy'n gobeithio rhywsut y byddan nhw'n ei ddisodli, gan obeithio y bydd yn rhywbeth mwy buddiol."

Ar hyn o bryd, meddai, "does dim unrhyw ymgynghori na rhesymeg wedi'i rhoi i ni".

Image
Dechrau Da

Fe aeth ymlaen i ddweud bod angen gwell cyfathrebu rhwng y diwydiant a'r llywodraeth yn y dyfodol.

"Rwyf yn dymuno y byddai gwell cyfathrebu rhyngom ni a'r bobl sy'n gwneud y penderfyniadau hyn," meddai.

"Oherwydd mae ganddyn nhw effaith fawr - nid yn unig ar y teuluoedd a'r plant, ond ar y busnesau a'r economi yng Nghymru hefyd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n gweithio ar drefniadau newydd at pan ddaw'r cynllun i ben.

"Byddwn yn sicrhau bod rhaglen Dechrau Da yn parhau y tu hwnt i fis Mawrth," medden nhw.

"Rydym am i fabanod a phlant ifanc gael mynediad at lyfrau fel y gallant ddatblygu cariad at ddarllen o oedran cynnar.

"Mae Adnodd yn gweithio gyda BookTrust Cymru i gytuno ar y parhad nes bod trefniadau newydd ar waith."

Ychwanegodd eu bod wedi rhoi arian i BookTrust Cymru i ddarparu 8,000 o lyfrau dwyieithog i fynd i mewn i Fwndeli Babanod am ddim.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.