Galw am ddatganoli pwerau darlledu yn sgil pryderon am ddyfodol Clic S4C

s4c

Mae mudiad iaith wedi galw am ddatganoli pwerau darlledu i Gymru yn sgil pryderon am effaith cytundeb newydd rhwng S4C a BBC ar ddyfodol gwasanaeth darlledu digidol y sianel deledu Cymraeg.

Cyhoeddodd y ddau ddarlledwr ddydd Mercher y bydd cynnwys Cymraeg S4C yn ymddangos "yn rheolaidd" ar hafan BBC iPlayer yng Nghymru.

Bydd cynnwys "nodedig" S4C gan gynnwys dramâu a darllediadau o chwaraeon byw hefyd yn ymddangos ar hafan BBC iPlayer ledled y DU am y tro cyntaf.

Ond wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Cymdeithas yr Iaith eu bod yn poeni y gallai'r cytundeb ffrydio newydd arwain at ddadflaenoriaethu Clic S4C, sef yr unig wasanaeth ffrydio sydd wedi'i gynllunio o amgylch y Gymraeg a'i chynulleidfaoedd. 

Dywedodd y mudiad iaith bod dibynnu ar BBC iPlayer yn "peri risg sylweddol" i annibyniaeth S4C.

Ymhlith eu pryderon mae colli rheolaeth dros ddata am ddefnydd a'r algorithmau sy'n dethol a darparu cynnwys.

Dywedodd S4C bod Clic yn parhau i fod yn "flaenoriaeth" i'r darlledwr ac y bydd y cytundeb gyda BBC iPlayer yn debygol o ddenu mwy o wylwyr at eu cynnwys.

'Dylai'r Gymraeg ddim bod yn is-gategori'

Dywedodd Mirain Owen o Gymdeithas yr Iaith: "Wrth reswm rydyn ni'n falch y bydd cynnwys Cymraeg yn cael lle mwy amlwg ar y we, ond mae peryglon o ran lluosogrwydd, annibyniaeth a chynaliadwyedd S4C wrth ddilyn y trywydd hwn. 

"Mae Clic yn llawer mwy na gwasanaeth ffrydio, hi ddylai fod brif gartref digidol teledu Cymraeg. Os ydyn ni o ddifrif am ddyfodol y Gymraeg yn y byd digidol, rhaid sicrhau bod gan Clic ddyfodol clir, gyda'r adnoddau a'r flaenoriaeth briodol. 

"Ni ddylai amlygrwydd ar blatfformau eraill ddod ar draul annibyniaeth na seilwaith digidol y Gymraeg. 

"Ni ddylai cofleidio'r byd aml-lwyfan olygu bod y sianel Gymraeg yn anwybyddu ei phlatfform cynhenid."

Fe aeth Ms Owen ymlaen i ddweud ei bod yn "egwyddor sylfaenol" bod gan y Gymraeg ei seilwaith digidol ei hun.

"Dylai'r Gymraeg gael bod yn brif iaith llwyfan digidol pwrpasol, nid yn is-gategori o fewn platfform Prydeinig sydd yn Seisnig ei hanfod," meddai.

"Mae hefyd cwestiwn pwysig i'w ofyn am elfennau o strategaeth 'digidol yn gyntaf' y sianel sy'n awgrymu na fydd mwy a mwy o gynnwys S4C yn Gymraeg ar gael i wylwyr trwy Clic o gwbl. Yn hytrach mae'r sianel bellach yn comisiynu rhaglenni a fideos yn benodedig ar gyfer platfformau corfforaethol fel YouTube a TikTok."

Yn dilyn y cyhoeddiad mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am ddatganoli pwerau darlledu i Gymru.

"Heb rym deddfwriaethol clir dros ein seilwaith cyfryngau ein hunain, bydd y Gymraeg yn parhau i fod yn agored i benderfyniadau a blaenoriaethau gwleidyddion a darlledwyr mawr yn Llundain," meddai Ms Owen.

"Mae'n bryd symud y tu hwnt i drefniadau partneriaeth ansicr, a sicrhau bod amlygrwydd y Gymraeg yn hawl statudol ar bob sgrin ac ar blatfformau digidol.

"Rydym yn galw ar S4C i roi ymrwymiad clir a chyhoeddus y bydd Clic yn parhau'n brif gartref digidol teledu Cymraeg, gyda lefel o fuddsoddiad, datblygiad a gwelededd sy'n cyfateb i unrhyw bartneriaeth allanol. 

"Mae cynyddu gwelededd yn bwysig, ond ni ddylai hynny ddigwydd ar draul annibyniaeth na seilwaith digidol y Gymraeg."

'Mwy amlwg'

Dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Mae Clic yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni fel darlledwr wrth weithredu gweledigaeth ddigidol-yn-gyntaf ein strategaeth, Mwy Na Sianel Deledu, ac mae buddsoddiad sylweddol yn cael ei wneud o hyd i gynnal a datblygu Clic, ac i sicrhau ei fod ar gael ar ragor o blatfformau teledu.
 
"Wrth i arferion gwylio newid, mae'n bwysig bod cynnwys Cymraeg ar gael ar draws platfformau gwylio a chyfryngau cymdeithasol. 
 
"Bydd y bartneriaeth newydd bwysig hon gyda BBC iPlayer yn gwneud y Gymraeg yn fwy amlwg ar un o’r platfformau gwylio mwyaf poblogaidd yn y DU, sydd yn debygol o ddenu mwy o wylwyr at gynnwys Cymraeg S4C."
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.