Rhyfel Iran: Awyren i'r DU wedi methu hedfan oherwydd 'problemau technegol'
Mae awyren sydd wedi ei threfnu gan lywodraeth y DU er mwyn cludo dinasyddion Prydeinig o'r dwyrain canol wedi methu hedfan nos Fercher oherwydd 'problemau technegol.'
Yn y cyfamser mae Israel ac Iran wedi bod yn cynnal ymosodiadau newydd dros nos, gyda golygfeydd o ffrwydron yn yr awyr dros y ddwy wlad wrth i systemau amddiffyn awyr gael eu defnyddio i atal taflegrau rhag glanio ar y ddaear.
Dyma'r chweched diwrnod ers i America ac Israel ddechrau ar gyfres o ymosodiadau ar Iran a Libanus, ac mae tystion wedi cadarnhau bod cyfres o ffrwydron wedi eu clywed dros nos, yn arbennig mewn ardaloedd yn lleol i ddinasoedd Isfahan a Tehran yn Iran.
Mae newyddiadurwyr hefyd wedi adrodd bod seirenau cyrch awyr wedi eu clywed dros nos yn ninasoedd Tel Aviv a Jerwsalem yn Israel, wrth i systemau amddiffyn y wlad rhag taflegrau gael eu gweithredu, mae llygaid dystion hefyd wedi adrodd eu bod wedi gweld ffrwydradau yn yr awyr wrth i'r systemau diogelu atal y ffrwydron rhag cyrraedd y tir.
Yn ôl yn y DU, roedd golygfeydd i'w gweld yn un o brif borthladdoedd y Llynges Frenhinol, Portsmouth ddydd Mercher o long yr HMS Dragon yn cael ei llwytho gydag arfau a nwyddau, fel pe tai yn paratoi i hwylio. Roedd Iran wedi llwyddo i daro un o safleoedd milwrol y DU ar ynys Cyprus gyda dronau dros y penwythnos.
Yn y cyfamser, mae swyddogion wedi ymddiheuro am oedi yr hediad awyr cyntaf a drefnwyd gan lywodraeth y DU, i ddod â dinasyddion adref o'r rhanbarth, ond nid oes gwybodaeth ar hyn o bryd am drefniadau newydd ar gyfer yr hediad.
Mae'r senedd yn America wedi pleidleisio yn erbyn mesur a fyddai wedi cyfyngu ar allu Donald Trump i orchymyn mwy o weithredu milwrol yn Iran.
(Llun: PA MEDIA)
