Newyddion S4C

Teyrngedau i ddau fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mro Morgannwg

04/04/2025
Barrie John a Lawrence Howells
Barrie John a Lawrence Howells

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddau ddyn a fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mro Morgannwg ddydd Mawrth. 

Bu farw tri dyn yn y gwrthdrawiad a ddigwyddodd ar ffordd yr A48 ger Tresimwn (Bonvilston) ychydig cyn 17:00.

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi mai Lawrence Howells, 51, o Borthcawl a Barrie John, 48, o Glynrhedynog oedd dau o'r tri dyn fu farw. 

Mewn teyrnged, dywedodd teulu Lawrence Howells: "Fel teulu, rydym ni wedi ein llorio ac yn gofyn am amser i alaru a phrosesu colli Lawrence. 

"Mae ein meddyliau hefyd gyda'r teuluoedd eraill sydd wedi eu heffeithio gan y ddamwain drasig hon."

Dywedodd teulu Barrie John: "Roedd ei egni yn heintus, roedd wastad yn tynnu coes. Ond mae o wedi mynd bellach, ac mae'r distawrwydd yn llethol. 

"Mae ei golli wedi gadael gwagle yn fy nghalon na all gael ei lenwi. Dwi'n disgwyl clywed ei lais o hyd, gweld ei wyneb, ond y cwbl sy'n weddill ydy atgofion."

Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad ac yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2500102402.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.