Dyn 28 oed yn pledio'n euog i geisio llofruddio baban yng Ngheredigion
10/04/2025
Dyn 28 oed yn pledio'n euog i geisio llofruddio baban yng Ngheredigion
Mae dyn 28 oed wedi pledio’n euog i geisio llofruddio baban yng Ngheredigion.
Fe wnaeth Rhydian Jamieson, o Gwm Cou, Castell Newydd Emlyn, ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau.
Fe wnaeth gyfaddef iddo niweidio'r baban, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol.
Wrth gadw Jamieson yn y ddalfa, dywedodd y Barnwr Paul Thomas KC: "Byddaf yn delio â chi ar 27 o Fai.”
Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad yn Y Ferwig, Ceredigion, ychydig cyn 22.15 ddydd Mercher 15 Ionawr yn dilyn adroddiadau yn ymwneud â lles plentyn.
Fe gafodd y baban ei gludo i'r ysbyty ar unwaith.