
'Tawelwch meddwl' i gymunedau yn y gogledd wrth adeiladu amddiffynfeydd llifogydd

'Tawelwch meddwl' i gymunedau yn y gogledd wrth adeiladu amddiffynfeydd llifogydd
Mi fydd cymunedau yn y gogledd gafodd eu heffeithio gan lifogydd bron i ddeng mlynedd yn ôl yn derbyn cyllid i wella amddiffynfeydd.
Mi wynebodd sawl ardal gan gynnwys Talybont ger Bangor, Bontnewydd, Caernarfon a Biwmares nifer o lifogydd dros gyfnod y Nadolig yn 2015 gyda nifer o bobl yn gorfod gadael eu tai ar frys.
Gyda pheth o’r gwaith eisoes wedi digwydd, mi fydd gwaith gwerth £2m rŵan yn dechrau yn y Bontnewydd ger Caernarfon i gryfhau amddiffynfeydd wrth i sgil effaith stormydd waethygu.
Yn ôl Cyngor Gwynedd mi fydd y gwaith yn “dawelwch meddwl” i nifer sydd yn dal i boeni bron i ddegawd yn ddiweddarach.

Roedd cartref Alan Owen o’r Bontnewydd yn un o naw ar ei stad wnaeth ddeffro ar fore 27 Rhagfyr 2015 i ddŵr yn llifo drwy ei gartref.
Roedd rhyw 6-7 modfedd yn llifo drwy’r gegin a’r ystafell fyw.
“Natho ni godi tua wyth a jest gweld o amgylch y tŷ ac wedyn yn codi drwy’r lloriau ma," meddai Alan.
“Mi gymerodd o rhyw pum mis a hanner inni gael dod nôl i fyw.
“Roedd y cwmni insurance eisiau gwybod bob dim, hyd yn oed pacedi o fwyd oedd ar eu hanner.
“Mae 'di bod yn boen meddwl, bob tro mae di bod yn bwrw glaw yn hegar da ni’n meddwl, o ydi hwn am ddigwydd eto?”

'Gwella'r wal'
Yn ystod y llifogydd mi gafodd nifer o ardaloedd ledled Cymru eu heffeithio gyda cheir yn sownd ar yr A55 ger Talybont a nifer yno ond gorfod gadael eu cartrefi.
Mae’r gwaith gwerth miliynau o bunnoedd yno bellach wedi ei gwblhau i wella’r isadeiledd ond mi fydd cymunedau llai hefyd rŵan yn derbyn cyllid.
Mi fydd Bontnewydd yn derbyn £2m, ardal Caernarfon yn derbyn £693,000 a Mynydd Llandygai yn derbyn £1.25m.
Yn ôl Emyr Gareth sy’n Brif Beiriannydd gyda Chyngor Gwynedd y bwriad ym Montnewydd yn cryfhau yr isadeiledd.
“Yma fyddwni’n gwella’r wal," meddai.
“Mi nawn i godi ei lefel hi a chryfhau’r sylfaen ac yna wrth yr afon Beuno nawn i godi waliau hefyd a gwella mynediad i’r ceu ffosydd.
“Hefyd nawn i roi ardal storio newydd mewn i leihau a rheoli faint o ddŵr sy’n dod mewn i’r pentref."

'Croesawu'
Yn ôl Cyngor Gwynedd mi fydd y gwaith yn rhoi yr hyder a thawelwch meddwl i bobl sy’n byw yn y cymunedau hyn na fydd rhywbeth tebyg yn digwydd eto.
Yn ôl y Cynghorydd Menna Trenholme sy’n cynrychioli ward Bontnewydd, mae’n cydnabod bod yr oedi o weithredu cynlluniau wedi bod yn her.
“Ydi mae 10 mlynedd yn amser hir iawn ond mae’n rhaid inni gofio bod Llywodraeth Cymru yn gorfod blaenoriaethu prosiectau ar draws Cymru," meddai.
“Mae Cyngor Gwynedd wedi buddsoddi tua £200,000 i neud gwaith ar yr afon ar y pryd a does dim llifogydd wedi digwydd ers 2015.
“Ond dwi’n siŵr y bydd pobl yn croesawu bod y gwaith yn digwydd nawr."