Y Democratiaid Rhyddfrydol yn cipio is-etholiad yng nghadarnle Llafur
Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn fuddugol mewn is-etholiad yn un o gadarnleoedd y Blaid Lafur.
Enillodd cynrychiolydd y blaid, Susan Grounds, is-etholiad Cwmllynfell ac Ystalyfera yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Allan o'r 1,126 o bleidleisiau, roedd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi hawlio 383 ohonynt, sef 34% o'r bleidlais.
Plaid Cymru oedd yn ail agos gyda 340 pleidlais.
Reform cipiodd y drydydd safle gyda 150 o bleidleisiau, tra bod Llafur yn y bedwerydd safle gyda 143.
Dywedodd David Chadwick, Aelod Seneddol Y Democratiaid Rhyddfrydol dros Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe bod y blaid yn ennill yng Nghymru eto.
“Mae hon yn fuddugoliaeth wych i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru yn un o gadarnleoedd Llafur," meddai.
"Mae pobl yn gweiddi am newid ac wedi cael llond bol ar y diffyg cynnydd a dirywiad dan Lafur.
“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill ledled Cymru eto ac rydym yma yn profi y gallwn herio’r status quo."
Mae'r canlyniad yn golygu bod gan Y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig dri chynghorydd ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot a'u cyntaf yng Nghwm Tawe.
Daw'r canlyniad yn syndod gan fod yr ardal yn un o gadarnleoedd y Blaid Lafur.
Mae pob un Aelod Seneddol San Steffan sydd wedi ei ethol yng Nghastell-nedd ers 1922 wedi bod yn AS Llafur.
Ond wedi newidiadau i etholaethau'r llynedd, fe ddaeth Ystalyfera a Chwm Tawe dan etholaeth Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe.
Enillodd David Chadwick o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn yr etholaeth newydd honno yn etholiad y DU'r llynedd.
Nid yw Llafur erioed wedi colli eu sedd yn yr etholaeth erioed yn etholiadau'r Senedd.