Cymraes yn dod yn drydydd mewn marathon yn ystod ei pharti plu
Fe wnaeth Gymraes oedd ar ei pharti plu orffen yn drydydd allan o holl fenywod ym Marathon Brighton.
Gorffennodd Emily Marchant o Abertawe'r ras 26.2 milltir mewn amser 2:58:17.
Roedd hi allan tan 03:00 y noson cynt yn dathlu ar ei pharti plu cyn codi erbyn dechrau'r ras am 09:00.
Ar hyd y ras roedd ei ffrindiau yno i'w chefnogi ac yn rhoi gwisg ffansi iddi wisgo yn ystod y ras.
"Roeddwn i wedi derbyn neges hanner ffordd drwy'r ras gan fy nghefnogwyr yn dweud fy mod i'n cyrraedd y blaen, felly meddyliais 'amdani'," meddai Emily.
"Roeddwn i wedi dal fyny gyda rhai ohonynt, felly dwi'n hapus i orffen yn y tri uchaf.
"Fe wnaethon ni gyrraedd ddoe a chael cwpl o ddiodydd ac wedyn mynd allan neithiwr, felly doeddwn i ddim yn y cyflwr gorau bore 'ma."
'Eiconig'
Ychwanegodd: "Roeddwn i am fod yn gyfrifol, ond wnes i gyffroi a chael hwyl, cyrraedd y gwesty yn hwyr a dyna ni.
"Hwn yw penwythnos fy mharti plu ac roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth eiconig a chofiadwy.
"Doeddwn i ddim yn disgwyl gorffen yn y tri uchaf, felly mae hynny yn gwneud y penwythnos hyd yn oed yn fwy cofiadwy."
Rhedodd hi'r 100m olaf yn dal dol chwyddadwy (inflatable doll) ac wedi dathlu gyda gweddill ei pharti plu wedi iddi groesi'r llinell derfyn.
Bydd Emily yn priodi ei phartner Charlotte mewn tua phedair wythnos.
O ddydd i ddydd mae Emily yn gweithio fel darlithydd addysg ac ymchwilydd iechyd plant ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae hi hefyd yn dipyn o athletwraig ac wedi ennill tlysau yn Ironman Cymru a gyda chlwb Harriers Abertawe.
Lluniau: PA