Y bardd a'r llenor, Nesta Wyn Jones, wedi marw
Mae’r bardd a’r llenor o Feirionnydd, Nesta Wyn Jones, wedi marw.
Yn flaenllaw ym myd llenyddol Cymru, roedd yn adnabyddus am ennill gwobr Cyngor y Celfyddydau yn 1987 am y cyfrol, Rhwng Chwerthin a Chrio.
Bu hefyd yn gweithio ar y gyfres llyfrau Gorwelion ar gyfer ysgolion uwchradd, cyn gweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru am gyfnod.
O Abergeirw ym Meirionnydd, fe enillodd ysgoloriaeth deithio gan Gyngor y Celfyddydau ym 1976 ac yn 1991.
Roedd hefyd wedi bod yn aelod o'r Academi Gymreig ers 1970.
Mewn teyrnged, dywedodd Gwerfyl Pierce Jones, cyn Brif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Trist iawn clywed am farwolaeth Nesta Wyn Jones, Abergeirw.
“Bardd, llenor a beirniad arbennig. A ffrind annwyl i lawer. Meddwl yn arbennig am Annest a’r teulu oll yn eu hiraeth."
Dywedodd y bardd, Annes Glyn: “Am newyddion trist! Fe fu gwaith Nesta'n ysbrydoliaeth cynnar i mi ac roeddwn i wrth fy modd efo'i chynildeb crefftus hi fel bardd ar draws y blynyddoedd.
"Yn parchu ei barn hi fel beirniad hefyd. Colled enfawr."