
Cross Hands: Gwaith i 'gychwyn eleni' ar adeiladu cartref gofal newydd
Fe allai gwaith i adeiladu cartref gofal newydd yn Sir Gaerfyrddin "gychwyn erbyn diwedd y flwyddyn."
Byddai'r cartref gofal yn Cross Hands yn cynnwys 65 ystafell wely, pum ystafell fyw, ystafell fwyta ac ystafell feddygol.
Hefyd fe fydd 25 lle parcio a safle i ambiwlans a bws mini yno.
Byddai'r cartref gofal yn cael ei adeiladu ger stryd Maes yr Haf yn y pentref, sydd yn agos i Barc Manwerthu Cross Hands.
Padda Care Ltd sydd yn gyfrifol am y datblygiad ac maen nhw'n dweud y bydd llwybr cerdded yn cael ei adeiladu rhwng yr adeilad a Ffordd Bryngwili, sef y brif ffordd i mewn i'r dref.
Dywedodd Chris Tymanowski, rheolwr gyfarwyddwr Padda Care y byddai'r gwaith yn cychwyn eleni.
"Dyw e ddim yn gyfrinach bod gorllewin Cymru angen mwy o wasanaethau gofal o safon uchel," meddai.
"Rydym yn gweithio gyda Chyngor Sir Gaerfyrddin i gadarnhau yn union pa wasanaethau y dylai cael eu darparu a fydd o fudd i'r ardal a'r sir yn ehangach.
"Y cynllun ar hyn o bryd yw bod gwaith datblygu yn cychwyn yn 2025 gyda'r cartref gofal a gwasanaethau yn barod erbyn 2026."

Ychwanegodd y cwmni y byddai pobl sydd â lefelau gwahanol o ddibyniaeth, gan gynnwys pobl sydd angen gofal arbenigol dementia, yn byw yn y cartref gofal.
Eisoes mae gan Padda Care gartref gofal arbenigol i gleifion dementia yn Llandybie ac yn Nhreforys, Abertawe.
Yn ogystal â'r cynlluniau yma, mae gan Gyngor Sir Gaerfyrddin gynlluniau i adeiladu cartref nyrsio a gofal preswyl sydd yn cynnwys 60 gwely yng Nghwmgwili, ychydig filltiroedd i'r de-ddwyrain o Cross Hands.
Mae disgwyl i hynny gostio tua £19.5m ac agor yn 2027.
Fe wnaeth asesiad o anghenion poblogaeth y sir ddwy flynedd yn ôl amcangyfrif y bydd gan Sir Gaerfyrddin 25% yn fwy o drigolion 85 oed a hŷn erbyn 2030 a bod angen mwy o gartrefi gofal.
Wrth siarad mewn cyfarfod cabinet fis Rhagfyr diwethaf dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, aelod cabinet dros iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ei fod yn "hollbwysig ein bod yn mynd i’r afael â’r diffyg llety."