Tonysguboriau: 60 o ddiffoddwyr tân yn ymateb i dân mewn siop
Cafodd dros 60 o ddiffoddwyr tân eu galw i dân mewn siop yn Rhondda Cynon Taf dros nos.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i siop Leekes ar Ffordd y Bontfaen yn Nhonysguboriau, am 02.31 fore Gwener.
Bu rhaid i ran o'r A4222 Ffordd Llantrisant gau wrth i'r criwiau geisio rheoli'r tân.
Mewn datganiad dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod nhw wedi gallu atal y difrod rhag lledaenu o "brif adeilad y siop."
Cafodd pedair injan tân ychwanegol eu galw i gynorthwyo'r criwiau oedd eisoes yn delio gyda'r digwyddiad.
Roedd cymorth hefyd gan Heddlu De Cymru, National Grid, West & Wales Utilities a Byddin yr Iachadwriaeth.
Cafodd y tân ei ddiffodd tua 05:00.
Dywedodd Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod yn ymchwilio ar y cyd i darddiad y tân.
Cafodd yr A4222 ei hailagor ychydig cyn 08:00 fore Gwener.