Newyddion S4C

Y gyfres Adolescence i gael ei dangos i ddisgyblion y gogledd ddwyrain

Adolescence

Mae’n bosibl y bydd y gyfres boblogaidd Adolescence, sy’n edrych ar bwysau cyfryngau cymdeithasol a gwrywdod gwenwynig ar fechgyn ifanc, yn cael ei dangos mewn ysgolion yn Sir y Fflint a Wrecsam.

Mae'r gyfres Netflix yn adrodd hanes bachgen ifanc sy’n lladd ei gyd-ddisgybl benywaidd wedi iddo gael ei ddylanwadu gan gynnwys misogynistaidd ar-lein.

Yn dilyn llwyddiant y gyfres, mae'r platfform ffrydio wedi sicrhau bod Adolescence ar gael i ysgolion ei ddangos am ddim fel adnodd addysgol trwy Into Film+.

Mae adrannau addysg Cyngor Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint wedi cadarnhau y byddan nhw'n caniatáu i ysgolion ddangos y gyfres i'w disgyblion.

Dywedodd y cynghorau eu bod yn gobeithio dechrau sgwrs gyda disgyblion am rai o'r themâu sy'n codi yn y gyfres.

Gall athrawon ddilyn canllawiau gan yr elusen perthnasoedd iach Tendr i sicrhau bod y sgyrsiau'n gadarnhaol.

'Arf pwysig'

Pan ofynnwyd i Gyngor Wrecsam a fyddai’n defnyddio’r deunydd, dywedodd ei hadran addysg: "Er nad yw’n addas ar gyfer pob ysgol a grŵp oedran, gall cael rhaglenni fel hyn fel adnodd rhad ac am ddim fod yn arf pwysig wrth ddechrau sgyrsiau o amgylch y pynciau."

Dywedodd Cyngor Sir y Fflint fod gan ysgolion yr annibyniaeth i ddewis a ydyn nhw am ddangos y gyfres.

"Byddai unrhyw benderfyniad i ddangos y rhaglen yn fater i bob ysgol unigol," meddai llefarydd ar ran y cyngor. 

"Ni fydd hynny’n cael ei benderfynu gan y cyngor."

Mae Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, wedi croesawu'r penderfyniad i ddangos y gyfres mewn ysgolion.

"Fel tad, wrth wylio’r gyfres gyda fy mab a’m merch yn eu harddegau, gallaf ddweud wrthych – fe darodd yn galed.

"Mae hon yn fenter bwysig i annog cymaint o ddisgyblion â phosibl i wylio’r gyfres."

Ychwanegodd: "Mae siarad yn agored am newidiadau yn y ffordd y mae plant yn cyfathrebu, y cynnwys maen nhw’n ei weld ac archwilio’r sgyrsiau maen nhw’n eu cael gyda’u cyfoedion yn hanfodol os ydyn ni am eu cefnogi’n iawn i lywio heriau cyfoes, a delio â dylanwadau niweidiol."

Dywedodd Jack Thorne, a ysgrifennodd Adolescence ar y cyd gyda'r actor Stephen Graham, mai bwriad y gyfres oedd "ysgogi sgwrs".

"Roedden ni eisiau gofyn y cwestiwn - sut allwn ni helpu i atal yr argyfwng cynyddol hwn?" meddai.

"Mae cael y cyfle i fynd â hyn i mewn i ysgolion y tu hwnt i’n disgwyliadau ac rydyn ni’n gobeithio y bydd yn arwain at athrawon yn siarad â’r myfyrwyr.

"Ond yr hyn rydyn ni wir yn gobeithio yw y bydd yn arwain at fyfyrwyr yn siarad ymhlith ei gilydd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.